Archives
2021 canlyniadau
Os ydych chi'n berchennog busnes bach, rydych chi'n gwybod y gall costau cynyddol fod yn her wirioneddol. Mae'n hawdd cael eich llethu trwy geisio cadw eich busnes i fynd mewn economi ansicr sy’n cynnwys chwyddiant uchel a dirwasgiad posibl. Mae canllaw’r British Business Bank ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd, ymarferol, a gweithredadwy i helpu busnesau llai i reoli eu costau, rhoi hwb i'w proffidioldeb hirdymor, a chynyddu eu gwydnwch...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda Her Faraday Battery i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi y gellir cynnyddu eu graddfa. Nod y gystadleuaeth hon yw: cefnogi ymchwil a datblygiad BBaCh i ddatblygu technolegau batri yn y DU cefnogi BBaCh i ddefnyddio UK Battery Industrialisation Centre (UKBIC) a dangos technolegau ar raddfeydd addas i gwsmeriaid cynyddu ymgysylltiad ag UKBIC symud arloesiadau batri'r DU o botensial...
Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd. Mae Cylch 3 y cynllun ar agor nawr am gyfnod byr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais...
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i: ddathlu cyflawniadau menywod addysgu a...
Os ydych chi'n cynhyrchu, dylunio neu'n datblygu cynnyrch yng Nghymru, beth am roi cynnig ar Wobrau Gwnaed yng Nghymru 2023. Mae gwobrau unigryw Insider yn dathlu'r cynhyrchion, yr arloesiadau a'r syniadau gwych gan gwmnïau o bob maint ledled Cymru. Mae'n gyfnod cyffrous a heriol i weithgynhyrchwyr yng Nghymru. Mae llawer wedi arloesi a chwilio am farchnadoedd newydd i gynyddu gwerthiant. Mae rhai wedi newid eu ffordd o weithio ac wedi rhoi sgiliau ffres i staff...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2023. Yn llawn, dyma’r cynnydd: Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £9.50 i £10.42 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £9.18 i £10.18 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.83 i £7.49 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (16-17) yn codi o £4.81 i £5.28 Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.81 i...
Mae Busnes Cymru wedi cefnogi fy uchelgais i fod yn sefydliad cynaliadwy a chymdeithasol ymwybodol. Roedd Ceri Williamson, peintiwr ac addurnwr cymwysedig, yn awyddus i ddechrau ei busnes ei hun. Er mwyn sicrhau y byddai modd i’r busnes ddechrau masnachu, gofynnodd Ceri am gyngor gan Busnes Cymru. Trafododd wahanol agweddau ar ei syniad busnes gyda’i chynghorydd arbenigol, yn cynnwys y cynllun busnes, datblygu rhagolygon, strategaeth farchnata, a’r opsiynau cyllido a oedd ar gael. Ar ôl...
Rydyn ni i gyd yn byw yn hirach, sy'n golygu bod y mwyafrif ohonom yn debygol o fod yn gweithio am gyfnod hirach hefyd. Yng Nghymru, mae traean o'r gweithlu yn 50 oed neu'n hŷn, ac erbyn 2023, bydd hanner oedolion y DU dros 50 oed. Mae’ch cwsmeriaid a'ch gweithlu'n heneiddio. Felly, mae recriwtio, cadw staff ac ailhyfforddi unigolion hŷn yn y gweithle yn hanfodol i fusnesau a'r economi ehangach. Mae angen i fusnesau weithredu...
Cynhelir Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth rhwng 13 a 19 Mawrth 2023. Gan fod gan 15% o boblogaeth y DU gyflyrau niwroamrywiol, mae'n bwysig gwerthfawrogi manteision gweithle niwroamrywiol. Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2023, cynhelir wythnos o ddigwyddiadau wedi'u hanelu at addysgu ac ysbrydoli sgyrsiau am Niwroamrywiaeth, gan gynnwys 'Manteision Niwroamrywiaeth yn y Gweithle'. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol...
Pagination
- Previous page
- Page 202
- Next page