Archives

211 canlyniadau

Energy efficiency
Bydd busnesau bach ledled y DU yn elwa o gyllid a chefnogaeth newydd gan Lywodraeth y DU i'w helpu i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd, i leihau eu costau gweithredu ac i roi hwb i'w busnes. Mae hyn yn cynnwys £2 miliwn ychwanegol o gyllid trwy'r rhaglen 'Made Smarter Adoption' yn benodol i helpu busnesau bach a chanolig i ostwng eu biliau a dod yn fwy effeithlon o ran ynni drwy fuddsoddi mewn technoleg mewn meysydd fel...
Christmas tree with gift bag - Welsh Flag
Gyda 2026 ar y gorwel, beth am wneud addewid i Gymreigio eich busnes ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod? Mae defnyddio’r Gymraeg yn ffordd wych o gryfhau eich brand, cysylltu â chwsmeriaid, a dangos ymrwymiad i’n diwylliant. Bydd cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaeth, mae adnoddau ar gael i’ch cynorthwyo: Arferion Da: Rhedeg Busnes drwy Gyfrwng y Gymraeg | Busnes Cymru and Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes...
Employer looking at a digital device
Os ydych chi'n gyflogwr ac eisiau i rywun weithio i chi o'r tu allan i'r DU, fel arfer bydd angen trwydded noddwr arnoch ar gyfer eu cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys gwaith di-dâl, fel rhedeg elusen. Nid yw noddi rhywun yn gwarantu y byddant yn cael fisa i weithio i chi yn y DU. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ychwanegol pan fyddwch yn aseinio Tystysgrif Noddi i rywun sy'n gwneud cais...
female apprentice
Bydd bron i filiwn o bobl ifanc ledled y DU yn elwa o gyfleoedd dysgu neu gyflogaeth o ganlyniad i becyn ariannu gwerth £820 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi. Bydd 350,000 o gyfleoedd hyfforddi newydd neu gyfleoedd newydd yn y gweithle mewn sectorau gan gynnwys adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol a lletygarwch yn cael eu cynnig i bobl ifanc ar Gredyd Cynhwysol i'w helpu i ddatblygu sgiliau yn y gwaith, rhwydweithiau cyflogwyr...
Planning, architect
Mae'r broses a gyflwynwyd gan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn berthnasol i ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, gwastraff, dŵr a thrafnidiaeth. Mae'n disodli'r Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a rhaglenni cydsynio presennol eraill. Yn gynharach eleni, roedd cyflymder y broses o wneud cais cynllunio ar gyfer eu cynlluniau i adeiladu ar hen safle Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu argraff ar Vantage, sef gweithredwr canolfannau data ar raddfa uwch...
manufacturing
Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Gweithgynhyrchu a Chadwyn Gyflenwi Cymru yn dychwelyd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd ar 26 Chwefror 2026, gan ddenu’r goreuon o fyd gweithgynhyrchu, peirianneg, ac arwain cadwyni cyflenwi yng Nghymru. Mae'r digwyddiad cenedlaethol undydd hwn wedi'i gynllunio i arddangos datblygiadau diwydiannol arloesol ac i fynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt. Gyda 150+ o arddangoswyr, 100+ o siaradwyr arbenigol, a miloedd o weithwyr proffesiynol...
2025 2026
Mae penderfynu a oes yn rhaid i weithiwr weithio ar wyliau banc yn fater i'w gyflogwr. Gallai ddibynnu ar y diwydiant maen nhw'n gweithio ynddo. Er enghraifft, gallai bwytai a gwestai fod yn fwy tebygol o fod ar agor ar wyliau banc. Gallai gŵyl banc ddisgyn ar ddiwrnod nad yw gweithiwr fel arfer yn gweithio. Dylai cyflogwyr: ddweud wrth weithwyr beth yw rheolau'r sefydliad ar gyfer gwyliau banc – yn enwedig os ydyn nhw'n newydd...
Stressed factory worker
Mae'r ffigurau diweddaraf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn dangos bod 964,000 o weithwyr wedi dweud eu bod wedi profi straen, iselder neu bryder sy'n gysylltiedig â gwaith yn 2024/25. Mae hyn yn cadarnhau mai iechyd meddwl yw prif achos salwch sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r ystadegau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Mae asesiadau risg effeithiol a sgyrsiau gonest, a chymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol straen...
Innovative team having a project discussion
Dysgwch fwy am gystadlaethau a digwyddiadau diweddaraf Innovate UK Funding. Rownd 24 Benthyciadau Innovation Gall busnesau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau Innovation sy'n amrywio o £100,000 i £5 million i gefnogi prosiectau arloesol sy’n agos at gyrraedd y farchnad sydd â photensial masnachol cryf, sy’n gwella economi'r DU yn sylweddol ac sy’n ysgogi budd cymdeithasol. Yn cau: 7 Ionawr 2026. Sbardunwr New European Bauhaus (NEB) i fusnesau newydd: Catalyse NEB...
person at work at Christmas using a laptop
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: Mae newidiadau’n dod i rym ar 6 Ebrill 2026, paratoi ar gyfer cyfrifoldebau TWE newydd mewn cadwyni cyflenwi llafur Diweddariad pwysig ynghylch ad-daliadau treth Talu buddiannau drwy’r gyflogres Ymgynghoriadau hydref y Bil Hawliau Cyflogaeth...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.