Archives

1831 canlyniadau

Heddiw (17 Mai 2023), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhaglen beilot sy’n cefnogi pobl sy’n gweithio yn sector sgrin Cymru gyda’u hiechyd meddwl ar fin elwa o £150,000 ychwanegol yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus. Wedi’i ariannu drwy Gymru Creadigol, mae rhaglen yr Hwylusydd Lles yn bartneriaeth rhwng rhaglen CULT Cymru, Undebau Creadigol yn Dysgu gyda’i Gilydd ac arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant 6ft from the Spotlight CIC. Caiff y rhaglen ei gyrru a'i lliwio...
Dysgwch fwy am y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni (EBDS) ar gyfer cwsmeriaid annomestig ansafonol. Mae gwneuthurwyr dur, gweithfeydd ailgylchu a gweithgynhyrchwyr ymhlith y busnesau a fydd yn elwa ar gynllun newydd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU i helpu gyda chost eu biliau ynni. O 17 Mai 2023, gall y cwmnïau hyn - a elwir yn Gwsmeriaid Ansafonol - nawr wneud cais am gymorth gyda'u biliau o fis Ebrill 2023 tan fis Mawrth 2024...
Nod rhaglenni sgiliau a thalent Venture yw paru’r bobl ‘gywir’ â’r rolau ‘cywir’ a’r cyflogwyr ‘cywir’, ledled de-ddwyrain Cymru, ac maent yn gwahodd busnesau i Rise and Shine – Digwyddiad Rhwydweithio dros Frecwast i Fusnesau. Dysgwch am eu rhaglen recriwtio a datblygu unigryw a gweld sut y gallant eich helpu i recriwtio'r dalent ddiweddaraf. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 7 Mehefin 2023, rhwng 8:30am a 10:30am yn adeilad Sbarc|Spark Prifysgol Caerdydd. Bydd siaradwyr yn rhannu...
Dewch o hyd i wybodaeth am y gwahanol fathau o ryddhad Treth Gorfforaeth i gwmnïau sy'n gweithio ar Ymchwil a Datblygu a beth sydd angen i chi ei wneud cyn i chi wneud hawliad: R&D tax relief guidance Tell HMRC before you make a claim Submit detailed information before you make a claim R&D tax relief for small and medium-sized enterprises (SMEs) R&D expenditure credit (RDEC) I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen...
Cyflymydd Digidol Byw Sero Net Rownd 1 Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn i ddatblygu cymwysiadau digidol i ddatrys heriau wrth ddarparu sero net ar gyfer lleoedd. Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 7 Mehefin 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Net Zero Living Digital Accelerator round 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk) Cystadleuaeth Benthyciadau...
Ydych chi'n gyflogwr? Ydych chi angen gweithwyr? Ydych chi'n barod i hyfforddi a chefnogi pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith? Ydych chi eisiau cyfrannu at eich cymuned? Os gallwch chi ddweud ie wrth y rhain i gyd, hoffem glywed gennych. Mae'r Gwasanaeth Allan o Waith yn darparu cymorth mentora a chyflogadwyedd i bobl sy'n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu afiechyd meddwl. Gall cyflogwyr elwa ar dri mis o gyngor a chefnogaeth gan fentoriaid cymheiriaid os ydynt...
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Heddiw (16 Mai 2023), rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion a fyddai’n golygu rhyddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod llawer o fusnesau o’r farn nad yw’r system ardrethi annomestig yn cynnig cymhelliad i fuddsoddi mewn...
Os yw eich busnes yn edrych ar gyfleodd allforio, neu os ydych eisoes yn allforio, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn darparu amrywiaeth o offer a gwasanaethau sy’n gallu cefnogi busnesau Cymru ar eu taith allforio. Yn ddiweddar fe wnaethom lansio ein Llyfryn Allforio, sy’n rhoi manylion am yr ystod gynhwysfawr o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru sydd am ddatblygu elfen allforio eu busnes. Yn y llyfryn cewch wybodaeth...
Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl yn dilyn lansio Rownd 3 Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Bydd Ffenestr 1 Rownd 3 yn agor ar 31 Mai 2023 a bydd yn cau am 11:59am ar 12 Gorffennaf 2023 a gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb (EOI) nawr. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Community...
Mae darpariaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd, o safon uchel, bellach ar gael am ddim i ymarferwyr sy’n darparu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin ac sy’n gweithio gyda babis a phlant ifanc, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth. O ystyried pwysigrwydd gofal plant a gwaith...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.