Archives

181 canlyniadau

Offshore wind
Mae Clean Industry Bonus ar fin chwarae rhan sylweddol wrth lunio buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi'r DU trwy raglen Contractau ar gyfer Gwahaniaeth gwynt ar y môr. Ond beth mae'n ei olygu'n ymarferol i gyflenwyr - a sut gall busnesau eu gosod eu hunain i elwa? Ymunwch â gweminar dan arweiniad arbenigwyr Ynni’r Môr Cymru sy'n dod â Llywodraeth Cymru, yr Adran Diogelu Ynni a Sero Net, ymgynghorwyr cynaliadwyedd Agendi, a'r cawr ynni RWE...
Roads signs in English and Welsh
Mae dyddiau ac wythnosau rhyngwladol yn achlysuron i addysgu'r cyhoedd amfaterion sy'n peri pryder, i ysgogi ewyllys ac adnoddau gwleidyddol i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang, ac i ddathlu ac atgyfnerthu cyflawniadau'r ddynoliaeth. Mae bodolaeth diwrnodau rhyngwladol yn rhagddyddio sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, ond mae'r Cenhedloedd Unedig wedi eu hymgorffori fel arf eirioli pwerus. Caiff International Mother Language Day ei gynnal ar 21 Chwefror ac mae’n cydnabod y gall ieithoedd ac amlieithrwydd ddatblygu cynhwysiant. Mae'r...
Woman wearing a tall Welsh hat and pink traditional Welsh jumper on a yellow background.
Dewi Sant yw nawddsant Cymru, a Dydd Gŵyl Dewi yw diwrnod cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth. Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru, yna bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y genedl . O ddigwyddiadau traddodiadol i ymgyrchoedd creadigol digidol, mae yna ddigon o ffyrdd i fusnesau gymryd rhan a denu sylw yn ystod y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi fel yr ymgyrch Pethau Bychain , sy’n...
Supertree Gardens, Singapore
Ar 17 Chwefror, mae'r byd yn dathlu Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang, a ddynodwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. I lawer o wledydd sy'n datblygu, gan gynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig, gwladwriaethau sy’n ynysoedd bach ac sy'n datblygu, gwledydd yn Affrica a gwledydd incwm canolig, mae twristiaeth yn ffynhonnell bwysig o incwm, enillion arian tramor, refeniw treth a chyflogaeth. Oherwydd bod twristiaeth yn cysylltu pobl â natur, mae gan dwristiaeth gynaliadwy’r gallu unigryw i sbarduno...
webinar
Ymunwch â'n gweminari archwilio'r Model Cymdeithasol o Anabledd a dysgu sut i gefnogi pobl anabl yn eich gweithle. Bydd y sesiwn yn eich helpu i ddeall sut mae pobl yn cael ei hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas neu'r gweithle, trwy adeiladau anhygyrch neu agweddau hen ffasiwn, yn hytrach nag oherwydd eu amhariadau. P'un a’i eich bod yn edrych i wella diwylliant yn y gweithle, deall sut i wneud addasiadau rhesymol, neu’n bod yn gynghreiriad gwell...
Melin Tregwynt Mill, Pembrokeshire, West Wales.
Mae'r gwobrau, a drefnir gan Chambers Wales South East, South West and Mid, yn rhoi cyfle i fusnesau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru. Mae cystadlu yng Ngwobrau Busnes Cymru yn gyfle i ennill cydnabyddiaeth am eich gwaith caled, arloesedd a llwyddiant. Yn agored i bob busnes sydd wedi'i leoli neu'n masnachu yng Nghymru, o ba bynnag faint neu sector, mae'r gwobrau'n rhoi llwyfan pwerus i arddangos cyflawniadau, codi eich proffil, a...
co-workers in a factory
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru, sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni'r pecyn o hawliau gweithwyr sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 2025. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd eu Plan to Make Work Pay yn cael ei gyflawni fesul cam, fel bod gan fusnesau, cyflogwyr a gweithwyr amser i gynllunio a pharatoi. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Implementing the Plan to Make...
person carrying shopping in a plastic bag
Mae Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi diweddariad i'r amserlen weithredu arfaethedig ar gyfer y gwaharddiadau 'Cam 2' sy'n weddill o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Mae hyn ar gyfer y cynnyrch canlynol: Bagiau plastig untro Caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê Cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy. Mae'r cyhoeddiad yn golygu na fyddwn bellach yn...
Principality Stadium Cardiff
Yn Hydref 2023, llwyddodd y DU ac Iwerddon (DU&I) i sicrhau’r hawliau i gynnal UEFA EURO 2028. Cynhelir y twrnamaint yn Lloegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon, dros 31 o ddiwrnodau ym mis Mehefin a Gorffennaf 2028. Cynhelir gemau mewn 9 stadiwm ac 8 dinas: Birmingham, Caerdydd, Dulyn, Glasgow, Lerpwl, Llundain, Manceinion a Newcastle. Mae Partneriaid Lletya yn anelu at weithredu un gwerthusiad cyfun o’r effeithiau economaidd-gymdeithasol a’r manteision etifeddiaeth o UEFA EURO 2028, a...
laptop
Gall cwsmeriaid newydd sy’n cofrestru ar gyfer gwasanaethau digidol Cyllid a Thollau EF (CThEF) gofrestru nawr gan ddefnyddio GOV.UK One Login. O heddiw ymlaen (9 Chwefror 2026), bydd cwsmeriaid unigol heb gyfrif Porth y Llywodraeth presennol yn creu GOV.UK One Login gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair yn unig, yn lle ID 10-12 digid, i gael mynediad at wasanaethau CThEF. Pan gaiff ei gyflwyno’n llawn ar draws y llywodraeth, GOV.UK One Login fydd yr unig...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.