Archives

1631 canlyniadau

Marine Energy Wales
Nodwch Gynhadledd Ynni Môr Cymru 2024 ar 13 a 14 Mawrth yn Arena Abertawe yn eich calendr. Mae #MEW2024 yn cynnig llwyfan allweddol i ddylanwadu ar ddyfodol ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. Gall y mynychwyr gysylltu ag arweinwyr y diwydiant, darganfod tueddiadau a diweddariadau technoleg, rhyngweithio â llunwyr polisïau, a datgelu cyfleoedd cyllido. Mae’r gynhadledd yn cynnwys sesiynau wedi’u teilwra, neuadd arddangos ar gyfer rhwydweithio, a chyfleoedd i amlygu’ch cynhyrchion a’ch gwasanaethau. I gael manylion...
person looking at a laptop
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Chwefror o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: 2024 Newid i gyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Hysbysu ar ddiwedd y flwyddyn Diwygiad y cyfnod sail Symleiddio adrodd ar Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fuddiannau Help i Gartrefi Newidiadau sydd ar y...
British army uniform
Mae cerdyn newydd i gyn-aelodau’r lluoedd arfog, a fydd yn eu helpu i gael at gymorth a gwasanaethau arbenigol, wedi dechrau cael ei gyflwyno i ymadawyr y lluoedd arfog. O 29 Ionawr 2024 ymlaen, bydd unrhyw aelodau sydd wedi gadael y lluoedd ers Rhagfyr 2018 yn cael un o’r cardiau newydd yn awtomatig, a fydd yn caniatáu iddynt gynnal cysylltiad pendant â’u gyrfa yn y lluoedd. Mae’r cardiau’n caniatáu i gyn-filwyr gadarnhau eu gwasanaeth yn...
Hac Iaith 2024
Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnal y trydydd Hac Iaith Gymraeg. Mae mynediad at fuddsoddiad o gronfa o £24,000 ar gael i’r syniadau buddugol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloeswyr a rheini sy’n frwdfrydig am dechnoleg gyfrannu at y defnydd o’r Gymraeg, drwy dreialu datrysiadau digidol sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn amgylcheddau digidol. I gefnogi ac annog dysgwyr, a chaniatáu i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ddefnyddio mwy o Gymraeg yn...
More than £8 million worth of loan funding will help revitalise town and city centres across Wales
Cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd pum awdurdod lleol yn elwa ar raglen trefi gwerth £8 miliwn Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn cefnogi awdurdodau lleol i gynnal prosiectau adfywio canol trefi a dinasoedd. Mae wedi dyrannu mwy na £73 miliwn ers ei lansio yn 2014 ac wedi sicrhau bod dros 600 o unedau yn cael eu defnyddio eto. Bydd awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Abertawe, Gwynedd a Wrecsam yn elwa...
Childcare funding for parents
Os wyt ti’n bwriadu dechrau busnes neu’n rhedeg un yn barod, gallai Cynnig Gofal Plant Cymru helpu i wneud bywyd ychydig yn haws i ti neu dy staff drwy roi cymorth tuag at gost gofal plant. Oeddet ti'n gwybod y gallet ti neu dy staff gael 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn? Mae hyn yn cynnwys hyd at naw wythnos o wyliau'r...
UK Green Business Award
Ymunwch â Business Green i ddathlu’r hyn sydd ar reng flaen economi werdd y DU yng Ngwobrau Busnes Gwyrdd y DU. Mae’r digwyddiad, sy’n cydnabod arloesedd a chynaliadwyedd, yn arddangos cwmnïau, prosiectau ac ymgyrchoedd eithriadol. Mae 29 categori’n anrhydeddu llwyddiannau ym maes ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, yr economi gylchol, ymgyrchoedd marchnata, busnesau bach ac arloesiadau. Byddwch yn rhan o’r dathliad gyda 600+ o arweinwyr diwydiant yn The Brewery yn Farringdon, Llundain. Mae cynigion ar gyfer...
Sign post
Mae dyddiau ac wythnosau rhyngwladol yn achlysuron i addysgu'r cyhoedd am faterion sy'n peri pryder, i ysgogi ewyllys ac adnoddau gwleidyddol i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang, ac i ddathlu ac atgyfnerthu cyflawniadau'r ddynoliaeth. Mae bodolaeth diwrnodau rhyngwladol yn rhagddyddio sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, ond mae'r Cenhedloedd Unedig wedi eu hymgorffori fel arf eirioli pwerus. Caiff International Mother Language Day ei gynnal ar 21 Chwefror 2024 ac mae’n cydnabod y gall ieithoedd ac amlieithrwydd ddatblygu...
farmer holding produce - carrots and radish
Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod. Pwy sy’n cael ymgeisio? Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2024, am gyfle i ennill -...
light bulb - Innovation
Mae gan Innovate UK amrywiaeth o gyfleoedd cyllido sydd ar agor i fusnesau Cymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Gall Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk) Grantiau clyfar 2024 Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.