Archives

1591 canlyniadau

Person having an eye test
Profion golwg rheolaidd yw'r ffordd orau o sicrhau bod eich llygaid yn iach, a gallent arwain at driniaeth lwyddiannus ar gyfer cyflyrau anhysbys, sy'n bygwth eich golwg ac efallai eich bywyd hyd yn oed. Dyna'r neges gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mewn ymgyrch newydd i annog oedolion dros 30 oed i fynd i gael prawf golwg yn eu practis optometreg lleol (optegwyr). Nid oes gan rai cyflyrau sy'n achosi pobl i golli eu golwg...
Vegetable farmer arranging freshly picked produce into a crate on an organic farm
Mae'r Her yn chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant cynaliadwy bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Nod yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach) yw dod o hyd i fusnesau a sefydliadau eraill sydd â syniadau sy'n canolbwyntio ar un o'r meysydd canlynol: Dulliau i annog a gwella gwybodaeth mewn ysgolion am fanteision iechyd...
management concept, online documentation database and digital file storage system or software, r
Maes o fuddsoddiad darbodus ar gyfer busnes twf uchel yw buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth. Er ein bod ni i gyd wedi clywed am - ac efallai hyd yn oed wedi profi - erchyllterau gweithrediadau TG sydd wedi mynd o chwith, nid oes rhaid iddo fod felly. Cadwch bethau'n syml. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd yw rhai pethau sylfaenol: adroddiadau gwybodaeth reoli misol safonol - llif arian, elw, dyledwyr cofnodion cwsmeriaid -...
Plastic straws
O 30 Hydref 2023 bydd gwaharddiad ar unrhyw un sy'n gwerthu neu'n cyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro yng Nghymru. Beth sy'n cael ei wahardd? Platiau plastig untro – mae’r rhain yn cynnwys platiau papur sydd ag arwyneb plastig wedi’i lamineiddio Cytleri plastig untro –er enghraifft ffyrc, llwyau a chyllyll Troellwyr diodydd plastig untro Cwpanau sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog Cynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren...
Hands holding craft paper gift box
Bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni yn cael ei gynnal ddydd Iau, 5 Hydref 2023. Mae ymgyrch #TickTheBox yn codi ymwybyddiaeth am beth yw Rhodd Cymorth a pha mor hanfodol yw hi i elusennau. Gwahoddir pob elusen i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ar eich gwefan ac yn eich cylchlythyrau, yr effaith y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar y bobl a'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu. A beth bynnag yw diben eich elusen...
Group of business partners discussing ideas
Cynhelir yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyslecsia rhwng 2 Hydref ac 8 Hydref 2023, ac mae’n dathlu amrywiaeth y gymuned ddyslecsig a’r amrediad cyfoethog o brofiadau bywyd o ddyslecsia. Y thema eleni yw Rwyt Ti’n Unigryw. Mae pob person â dyslecsia yn ei brofi mewn ffyrdd sy’n unigryw iddyn nhw. Bydd gan bob un ei set ei hun o gryfderau a heriau, a bydd yn troedio ei lwybr ei hun trwy fywyd. Amcangyfrifir bod gan 15%...
MIT students walking towards the famous dome, Massachusetts Institute of Technology in Boston,
Fel aelod o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) – Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP), gall Llywodraeth Cymru hwyluso cyfle i nifer bach o fusnesau yng Nghymru i fynd i gynadleddau 4/5-diwrnod. Cynhadledd Technoleg Ddigidol a Strategaeth MIT 2023: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Gyflymu Trawsnewid Digidol – 25-26 Hydref 2023 - Dyddiad Cenhadaeth: 23-27 Hydref 2023 Mae trawsnewid digidol yn chwyldroi’r ffordd y mae cwmnïau’n datblygu, cynhyrchu, hyrwyddo a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau. Drwy integreiddio technolegau digidol yn...
Shops in Aberystwyth
Datganiad Ysgrifenedig: Rebecca Evans MS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Heddiw (27 Medi 2023), rwyf yn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar ryddhad ardrethi gwelliannau yng Nghymru. Parodd yr ymgynghoriad am 12 wythnos o 16 Mai tan 8 Awst 2023. Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion i ddarparu rhyddhad gwelliannau ac fe wnaethant ddarparu ystod o sylwadau. Rwyf yn ddiolchgar am yr ymatebion manwl a chytbwys gan randdeiliaid...
male and female colleagues working, concept of employee ownership
A oes gennych gynllun olyniaeth busnes yn ei le? Mae perchnogion busnes yn cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, ond yn aml nid yw olyniaeth yn un ohonynt. Gyda thwf perchnogaeth gweithwyr (PG) yng Nghymru, bydd y sesiwn hon, ar 24 Hydref 2023 am 11am, yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau meddwl am PG fel eich opsiwn olyniaeth. Wedi'i anelu at berchnogion busnes yng Nghymru sy'n ystyried gadael eu cwmni...
Online Shopping Website on Laptop.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn galw ar fusnesau i roi'r gorau i ddefnyddio dyluniadau gwefannau niweidiol a all dwyllo defnyddwyr i ildio mwy o'u data personol nag yr hoffent. Mae arferion yn cynnwys rheolaethau preifatrwydd rhy gymhleth, gosodiadau diofyn sy'n rhoi llai o reolaeth dros wybodaeth bersonol, a gosod dewisiadau preifatrwydd gyda'i gilydd mewn ffyrdd sy'n gwthio defnyddwyr i rannu mwy o ddata nag y byddent yn dymuno...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.