Archives

1521 canlyniadau

plastic bottles and clothes made from recycled products
Mae Biffa yn helpu busnesau i ddatguddio gwerth posibl gwastraff - trwy ailddefnyddio, ailddosbarthu, ailgylchu a gweithio gyda sefydliadau arloesol, mawr a bach, i greu atebion cyffrous ac effeithiol sy'n lleihau gwastraff ac yn helpu i leihau ôl troed carbon. Maen nhw wastad yn chwilio am fusnesau ac entrepreneuriaid o'r un anian sy'n ceisio lleihau gwastraff ac maen nhw wedi lansio cystadleuaeth Ysgogwyr Newid. Os ydych chi wrthi’n creu newid ac yn chwilio am gefnogaeth...
musician playing a keyboard
Mae Sefydliad y Performing Rights Society for Music ( PRS) yn cefnogi doniau eithriadol o bob cefndir, o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ac o bob genre. Mae gan y PRS lawer o fentrau sy’n darparu cymorth ariannol ar gyfer creu, perfformio a/neu hyrwyddo cerddoriaeth ragorol, gan gynnwys: Cyllid i sefydliadau – hyrwyddwyr, sefydliadau datblygu doniau, gwyliau, lleoliadau, curaduron, grwpiau perfformio mawr Cyllid i Grewyr Cerddoriaeth – awduron caneuon, cyfansoddwyr, artistiaid, bandiau, cynhyrchwyr neu berfformwyr...
business event
Yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, mae Procurex National 2024 yn gyfle perffaith i weithwyr caffael proffesiynol o’r un anian wneud cysylltiadau newydd â chyd-brynwyr cyhoeddus a chyflenwyr preifat, er mwyn datblygu eu sgiliau, a rhannu arferion gorau i’w defnyddio yn y dyfodol. Mae Procurex National yn caniatáu i brynwyr sy’n rhan o gymuned gaffael y DU gwrdd â chyflenwyr blaenllaw sy’n darparu ystod amrywiol o gynhyrchion a gwasanaethau...
food waste
Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw’r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled y byd, ac fe’i cynhelir ddydd Mercher 24 Ebrill 2024. Mae gwastraff bwyd yn broblem fyd-eang, ac yn ei sgil daw amrywiaeth eang o effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Y nodau yw: Atal gwastraff bwyd byd-eang yn y man cychwyn, trwy storio bwyd yn y ffordd orau bosibl, gwneud defnydd o bob rhan fwytadwy o’r cynhwysyn, a chynllunio prydau...
River Teifi, Cardiff
Os ydych chi wedi cwblhau cynllun llifogydd ar gyfer eich cartref, ysgol, busnes neu gymuned mae hynny’n gam cadarnhaol wrth baratoi ar gyfer llifogydd. Mae’n bwysig adolygu eich cynllun yn rheolaidd i wirio a oes unrhyw beth wedi newid ac i ddiweddaru eich cynllun yn unol â hynny. Mae hefyd yn helpu i'ch atgoffa o'r camau sydd angen i chi eu cymryd wrth roi eich cynllun ar waith. Gall ymgyfarwyddo â’r camau hyn eich helpu...
construction worker
Mae hi bellach yn ofynnol i fusnesau'r DU dalu llawer mwy i weithwyr tramor sy'n dod i'r DU ar fisa Gweithiwr Crefftus. Y trothwy cyflog cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd y DU ar fisa Gweithiwr Crefftus ar hyn o bryd yw £26,200, gyda'r cynnydd cyntaf i £29,000 yn dod i rym ar 11 Ebrill 2024, ac yn nes ymlaen yn 2024 bydd yn cynyddu i £34,500. Erbyn dechrau 2025 bydd yn £38,700. Mae'r...
Hay Festival
Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth The Platform , cyfle newydd a chyffrous i bobl ifanc greadigol arddangos a rhannu eu gwaith yng Ngŵyl y Gelli 2024 . Nod The Platform yw helpu i hyrwyddo, cefnogi a datblygu artistiaid creadigol ifanc rhagorol sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd, trwy ddod â’u gwaith i un o wyliau celfyddydol mwyaf poblogaidd y byd. Mae ceisiadau’n cael eu gwahodd gan bobl greadigol rhwng 21 a...
Nant Gwrtheyrn sign
Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd – yn cydnabod a dathlu’r busnesau sydd ar flaen y gâd gyda’u defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn. Boed hynny’n siop pentref gyda gweithlu sy’n dysgu Cymraeg er mwyn cyfathrebu gyda’u cwsmeriaid; parlwr harddwch sy’n marchnata’u hunain yn ddwyieithog ar draws eu cyfryngau cymdeithasol neu’n gaffi sy’n annog y gymuned i ddod at ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg. Y categorïau: Brand mwyaf Cymraeg y byd...
female engineer holding a digital device
Mae'r clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 3 trwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â DESNZ a gofyn cwestiynau am gynigion posibl. Maent yn gyfle gwych i ymgysylltu â sefydliadau yn uniongyrchol ac rydym yn croesawu'r cyfle i siarad â chi a helpu gyda'ch ymholiadau. rhai olaf y ffenestr gystadleuaeth a gynhelir ar 16 Ebrill 2024. I gofrestru i fynychu ein clinigau rhanddeiliaid, ewch i'n gwefan gofrestru.
Lightbulb
Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol Innovate UK: rownd 14 Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi’r DU yn sylweddol. Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fusnesau micro, bach a chanolig (BBaChau). Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 1 Mai 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.