Archives

1481 canlyniadau

Betsan Moses, Chief Executive of the National Eisteddfod and Minister for Education and Welsh Language Jeremy Miles
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o hanner miliwn o bunnoedd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, er mwyn gwneud yr eisteddfodau eleni yn hygyrch i deuluoedd incwm is. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £350,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol a £150,000 i’r Urdd fel cyllid untro er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i fynychu’r gwyliau cenedlaethol yn Rhondda Cynon Taf a Maldwyn yr haf yma. Mae hyn yn...
Neurodiversity - brain made up of different coloured jigsaw pieces
Cynhelir Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth rhwng 18 a 24 Mawrth 2024. Gan fod gan 15%-20% o boblogaeth y DU gyflyrau niwroamrywiol, mae'n bwysig gwerthfawrogi manteision gweithle niwroamrywiol. Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2024, cynhelir wythnos o ddigwyddiadau wedi'u hanelu at addysgu ac ysbrydoli sgyrsiau am Niwroamrywiaeth. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol: Neurodiversity Celebration Week (neurodiversityweek.com) Resources | Neurodiversity Celebration Week (neurodiversityweek.com)
Lightbulb and coins
Cyn bo hir, bydd cannoedd o fusnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i leihau eu costau rhedeg. Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy'n gronfa gwerth £20 miliwn, yn helpu busnesau i gryfhau eu sefyllfa fasnachu yn y dyfodol. A hynny trwy...
Tattoo artist
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar reoliadau a chanllawiau statudol drafft i sefydlu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio. Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun. Y bwriad yw cychwyn Rhan 4 o'r Ddeddf a rhoi'r cynllun trwyddedu ar waith yn ei gyfanrwydd. Rydym eisoes wedi ymgynghori ar egwyddorion y cynllun, ac mae’r ymatebion a gawsom wedi llywio’r...
group of colleagues
Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi. Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Business Wales Events Finder - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk) Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol: rownd 9 Gall ymchwilwyr ac arloeswyr gyrfa gynnar sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau academaidd neu...
Group of People Applauding
Mae Gwobrau Hyrwyddwyr Cyflog Byw 2024 yn dathlu’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r mudiad Cyflog Byw. Mae’r gwobrau’n cydnabod ymdrechion y rhai ar draws sectorau gwahanol – o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Letygarwch ac o’r rhai sy’n hyrwyddo Cyflog Byw yn eu hardaloedd lleol i fusnesau cenedlaethol – mae’n dathlu’r bobl ar draws ein rhwydwaith sydd wedi creu newid gwirioneddol ac wedi mynd y tu hwnt i’r galw i hyrwyddo’r...
Food waste
Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2024 rhwng 18 Mawrth a 24 Mawrth 2024, a’r thema eleni yw ‘Dewis yr Hyn a Ddefnyddiwch’. Dan arweiniad Love Food Hate Waste , bydd yr wythnos yn rhoi sylw i fanteision dewis ffrwythau a llysiau rhydd. Mae ymchwil yn dangos y gall dewis cynnyrch rhydd, fel afalau, bananas a thatws, arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd. Mae Love Food Hate Waste wedi creu pecyn cymorth newydd – new...
small business owner looking at a digital device
Ymunwch â’r rhaglen am ddim i helpu microfusnesau ac unig fasnachwyr i ffynnu! Mae Busnesau Bach Prydain yn cyflwyno’r rhaglen Bach a Grymus i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol yn dechrau ar 15 Ebrill 2024. Bydd y rhaglen chwe wythnos hon sy’n roi hwb i unig fasnachwyr a microfusnesau yn gorffen gyda chynllun twf i gefnogi’r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Fe’i cyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad...
Machynlleth
Mae'r Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters wedi cyhoeddi heddiw (11 Mawrth 2024) y bydd Llywodraeth Cymru buddsoddi £1 miliwn i greu rhwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig. Daw'r cam fel rhan o gynlluniau i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon gyda'r nod o sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040. Mae’r cyhoeddiad yn adeiladu ar gamau y mae Llywodraeth Cymru eisoes...
child wheelchair user boxing with an instructor
Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau’r Diwydiant Chwaraeon 2024 Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) bellach ar agor. Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn hyrwyddo mentrau a llwyddiannau’r WSA, ac ar yr un pryd yn cyfleu’r modelau a’r strategaethau arfer gorau sy’n helpu sector chwaraeon a hamdden Cymru i ddatblygu. Gall sefydliadau enwebu ar gyfer wyth o gategorïau gwobrau: Y Fenter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau Y Fenter Orau i Hyrwyddo Menywod mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Gwobr yr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.