Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi tyfu 10% y llynedd. Roedd gan fusnesau yn y sector gyfanswm trosiant o £24.6bn yn 2023, o'i gymharu â £22.3bn yn 2022. Mae'r ystadegau ar gyfer y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, sy'n cynnwys gweithgynhyrchu a phecynnu, amaethyddiaeth a physgota, manwerthu ac arlwyo cyfanwerthu, amhreswyl. Cynyddodd nifer y busnesau 1%, i 28,768 yn 2023. Roedd y gadwyn gyflenwi bwyd...