Mae’r Her Canser hon, y cyntaf o’i fath, yn gydweithrediad rhwng Canolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru a’r Uned Arloesedd a Datblygu’r Farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Ceir uchelgeisiau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i wella canlyniadau cleifion canser a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae angen ymdrech ddi-baid i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd profion diagnostig a thriniaethau, sicrhau'r gofal priodol ar gyfer cleifion priodol ar adegau priodol, a datblygu gwasanaeth cynaliadwy drwy fabwysiadu technolegau newydd, arloesiadau o ran...