Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedr neu canolrif) dynion a menywod ar draws gweithlu. Os ydych chi'n gyflogwr sydd â 250 neu fwy o bobl ar eich 'dyddiad cipolwg' rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau ar adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’u seilio ar ddata cyflogres cyflogwyr a dynnwyd o ddyddiad penodol bob blwyddyn. Enw'r dyddiad penodol hwn yw'r 'dyddiad cipolwg'...