Archives

11 canlyniadau

2026
Ar 26 Ebrill 2026 bydd hi’n Ddiwrnod Eiddo Deallusol y Byd. Dyma gyfle unigryw i chi ymuno ag eraill ledled y byd i ystyried sut mae eiddo deallusol (IP) yn helpu'r byd celfyddydol i ffynnu ar lefel fyd-eang ac yn galluogi’r datblygiadau technolegol sy'n sbarduno cynnydd dynol. Mae'r ymgyrch hefyd yn gyfle i dynnu sylw at sut y mae hawliau IP, fel patentau, nodau masnach, dyluniadau diwydiannol, a hawlfreintiau, yn annog arloesedd a chreadigrwydd, a'r...
conference
Os ydych chi'n cynnal digwyddiad yr haf hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu gweithwyr a'r cyhoedd trwy ddefnyddio gwybodaeth am ddiogelwch digwyddiadau ar dudalennau gwe Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). P'un ai ydych chi'n trefnu i griw bach ddod at ei gilydd neu ddigwyddiad ar raddfa fawr, mae canllawiau'r HSE yn rhoi cyngor ymarferol i'ch helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau iechyd a diogelwch. Mae'r canllawiau’n eich helpu i gynllunio, rheoli a monitro...
people, laptops, financial reports
Mae Wythnos Technoleg Ariannol y DU yn dychwelyd rhwng 20 Ebrill i 24 Ebrill 2026. Bydd sylfaenwyr, entrepreneuriaid, buddsoddwyr, cyn weithwyr banc, rheoleiddwyr, llunwyr polisi, ysgolheigion a chyfryngau technoleg ariannol o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd i ddysgu, trafod, dadlau a rhwydweithio, Peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o’r sgwrs! I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: UK FinTech Week.
female forestry worker
Bydd Gwobrau Menywod mewn Busnes Gwyrdd yn arddangos y cwmnïau sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhywedd wrth iddynt fwrw ymlaen â gweithredu ar yr hinsawdd yn y DU, ac yn dathlu’r rôl y mae menywod eisoes yn ei chwarae wrth adeiladu economi werdd y DU. Mae yn 5 categori cwmni , 11 categori unigol a 8 categori yn seiliedig ar sectorau: Women in Green Business Awards 2026 - Categories and Criteria...
Inclusive employees
Mae Mis Derbyn Awtistiaeth y Byd yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth, annog derbyn, a chreu cymdeithas lle mae pobl awtistig yn cael eu cefnogi, eu deall a'u grymuso. P'un ai ydych gartref, yn yr ysgol neu yn y gwaith, gall eich cyfraniad wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Eich gweithredoedd sy’n bwysig - p'un ai ydych chi'n cefnogi cydweithwyr, myfyrwyr neu aelodau o'ch teulu sy’n awtistig, gallwch helpu i greu byd cynhwysol...
business owners - workshop
Mae Goldman Sachs 10,000 Small Businesses UK Programme ar gael i berchnogion busnes o bob sector, ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r rhaglen yn helpu entrepreneuriaid i greu swyddi a chyfleoedd economaidd trwy gynnig mynediad at gymorth addysg a busnes. Mae ceisiadau wedi agor nawr ar gyfer carfan 25, a gynhelir ym mis Medi 2026. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 24 Ebrill 2026. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais...
automotive industry
Gall mentrau micro, bach neu ganolig eu maint sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 miliwn ar gyfer prosiectau cyn-fasnacheiddio. Mae Innovate UK am ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddarparu technolegau trawsbynciol ar draws y chwe diwydiant arloesol a ddiffinnir yng nghynllun y sector Gweithgynhyrchu Uwch, gan gynnwys y sectorau canlynol: Modurol Batris Awyrofod Y Gofod Deunyddiau Uwch Technoleg Amaethyddol Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 22...
stressed worker
Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Straen, a bydd gwybod sut i adnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau i atal, i leihau, ac i reoli straen yn y gweithle. Mae Mis Ymwybyddiaeth Straen wedi dewis thema wahanol bob blwyddyn ers dros 30 mlynedd bellach, gyda phob un yn adlewyrchu heriau cymdeithasol. Y thema ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Straen 2026 yw: #BeTheChange. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Mis Ymwybyddiaeth Straen...
Person injured at work
Darllenwch y diweddariadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Diogelwch cerbydau a thrafnidiaeth yn y gwaith: Mae cael eich taro gan gerbyd yn dal i fod yn un o brif achosion anafiadau angheuol a difrifol yn y gweithle. Mae gan adran trafnidiaeth yn y gweithle gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch amrywiaeth o ganllawiau, cyngor ac adnoddau eraill i helpu i leihau’r risgiau a chadw gweithwyr yn ddiogel. Cyfarpar sgrin arddangos (DSE)...
worker using machinery with sparks
Mae Shufflebottom, sydd wedi’i leoli yn Llanelli, yn helpu i ddarparu prosiectau adeiladu, amaethyddol a diwydiannol ar hyd a lled y DU drwy weithgynhyrchu adeiladau ffrâm ddur a gwaith dur strwythurol. Gyda chefnogaeth gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru drwy ei Wasanaeth Cyflymydd Digidol a Chynhyrchiant SMART (SDPA), mae’r cwmni eisoes wedi cyflawni enillion cynhyrchiant sylweddol o amgylch 20 y cant, wedi atgyfnerthu cynllunio a datgloi capasiti ar gyfer twf wrth gefnogi swyddi â sgiliau yng...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.