Allforio Cymru 2027

Ymunwch â chynhadledd allforio flaenllaw Cymru a chysylltwch ag allforwyr newydd a phrofiadol, arbenigwyr masnach ryngwladol, partneriaid cyflenwi allweddol, banciau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol. Manteisiwch ar gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a bwciwch gyfarfodydd un-i-un gydag arbenigwyr marchnad sy'n cwmpasu rhanbarthau allweddol gan gynnwys y Dwyrain Canol, Asia, Ewrop, Ffrainc, yr Almaen, India, UDA, De America a mwy.

Bydd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o seminarau a gweithdai ymarferol a gynlluniwyd i helpu busnesau i dyfu'n rhyngwladol, archwilio marchnadoedd newydd a chryfhau eu galluoedd allforio.

Archwilio Allforio Cymru 2027

Cyfle gwych i fusnesau rwydweithio â'i gilydd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.