The vale

The Vale

Angerddol am Gynaliadwyedd

Mae Gwesty’r Fro yn cynnwys gwesty â 143 ystafell wely, dau gwrs golff ar gyfer pencampwriaethau, clwb iechyd a raced, sba mwyaf Cymru, a Chastell Hensol Gradd I rhestredig gyda’i 23 o ystafelloedd gwely, distyllfa, a phrofiad i ymwelwyr. Mae gan y lleoliad hefyd 7 o gaeau a ddefnyddir fel man hyfforddiant timau rygbi a phêl-droed Cymru, mae’n cyflogi 500 o bobl, ac mae ganddo lu o fesurau ar waith i sicrhau ei fod mor gynaliadwy ag sy’n bosibl.

Vale water

Dŵr 

Mae gan y Gwesty ddau o dyllau turio a ffynnon naturiol a ddefnyddir fel prif ffynhonnell ddŵr y gwesty, ac sydd hefyd yn cael eu defnyddio i ddyfrhau’r cyrsiau golff a’r caeau.

Mae system gymhleth o lynnoedd dros yr ystâd 650 o erwau, a chronfa ddŵr furiog 20 o erwau yn lleddfu effeithiau glaw trwm cyn i’r dŵr gyrraedd yr Afon Elai.

I ddysgu sut gallwch chi roi newidiadau ar waith yn eich busnes chi - lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Dŵr.
 

Gwastraff

Ar y safle yng Ngwesty’r Fro, fe ddewch o hyd i ffatri trin carthffosiaeth eu hunain, sy’n gwasanaethu’r gwesty a phentref Hensol. Mae’r Gwesty’n cynnal rhaglenni gwastraff ar wahân ac ailgylchu ar gyfer cardfwrdd, gwydr, papur a gwastraff bwyd. Mae gwastraff hefyd yn cael ei gywasgu i wella effeithlonrwydd ailgylchu, ac mae hefyd yn lleihau nifer y siwrneiau casglu.

Mae’r holl wastraff gardd yn cael ei ailgylchu ar y safle, ac mae’r tîm yn araf deg yn atal y defnydd o farchnata print ac yn ei ddisodli gydag opsiynau amgen digidol.

Os ydych chi’n aros yng Ngwesty’r Fro, fe welwch hefyd fod amwynderau’r gwesty wedi’u disodli i ddefnyddio brand sy’n gyfeillgar yn amgylcheddol, gyda phecynnau bioddiraddadwy.

Ydych chi’n meddwl am ffyrdd y gallwch chi leihau gwastraff yn eich busnes? Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Gwastraff.
 

Ynni

Yn ddiweddar, mae’r gwesty wedi buddsoddi £300,000 i baneli solar i wasanaethu’r gwesty a’i weithrediadau hamdden. Mae yna hefyd dechnoleg pwmp gwres sy’n defnyddio aer fel ffynhonnell er mwyn gwresogi ac oeri, sydd wedi bod ar waith ers ugain mlynedd bellach.

Ar hyn o bryd, mae timau’n disodli’r goleuadau hŷn gydag opsiynau amgen LED mwy effeithlon, ac yn lleihau eu defnydd ynni drwy ddarpariaethau dŵr, carthffosiaeth a gwastraff gardd ar y safle.

A yw hyn wedi rhoi syniad i chi o ran sut allwch chi newid y ffordd rydych chi’n defnyddio ynni? Cymerwch olwg ar ein Pecyn Adnoddau Ynni.
 

Cadwyn Gyflenwi

Boed os ydych chi’n ymweld â bwyty ar y safle, neu’n cynnal eich priodas yng Ngwesty’r Fro, fe welwch ein bod yn defnyddio cyflenwyr lleol ym mhob lleoliad sydd ar gael. O’r ystafelloedd, i’r bar, i Gastell Hensol, mae cymaint ag sy’n bosibl yn dod gan ddarparwyr lleol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut y gall eich cadwyn gyflenwi leol helpu eich busnes? Darllenwch ein Pecyn Adnoddau Cadwyn Gyflenwi.


 

Teithio

Rydym i gyd wedi arfer gweld bygis golff ar bob cwrs golff, a ‘dyw Gwesty’r Fro ddim gwahanol. Mae fflyd o 50 o fygis trydan ar gael, ac maen nhw’n disodli’r fflyd bresennol o gerbydau cwmni i opsiynau trydan lle bo’n bosibl.

Bydd perchnogion ceir trydan hefyd yn gallu gwefru eu ceir o ddechrau 2023, gan y bydd llawer o fannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod ar y safle.

Beth am lawrlwytho ein Pecyn Adnoddau Teithio i gael gwybod mwy am y ffordd gallwch chi roi newidiadau bach ar waith heddiw?
 

Cynaliadwyedd gyda Stephen Leeke, The Vale Resort (Saesneg yn Unig)
Cynaliadwyedd gyda Stephen Leeke, The Vale Resort (Saesneg yn Unig)

Rhan Un

Cynaliadwyedd gyda Stephen Leeke, The Vale Resort (Saesneg yn Unig)
Cynaliadwyedd gyda Stephen Leeke, The Vale Resort (Saesneg yn Unig)

Rhan Dau