Bryn Elltyd

Bryn Elltyd

Degawd o Gynaliadwyedd

Wedi'i bweru'n llwyr gan ynni adnewyddadwy ers 2013, ym Mryn Elltyd mae technoleg eco yn plethu gyda natur; gwesty eco cynaliadwy, hynod lwyddiannus yn y DU. Mae'r gwesty hwn wedi'i leoli ar droed mynyddoedd y Moelwyn, ger llyn ynni dŵr. Mae'n ganolog ac mewn lle delfrydol i grwydro Eryri, traethau a gweddill gogledd Cymru.

Dŵr

Mae Bryn Elltyd yn dipyn o feistr ar effeithiolrwydd dŵr. Mae casgenni dŵr yno i gasglu dŵr glaw ar gyfer toiledau. Caiff y dŵr hefyd ei ddefnyddio i ddyfrio'r rhandir sydd ar y safle!

Mae system carthffosiaeth biolegol yno hefyd, gyda thoiledau sy'n fflysio fel toiledau arferol, gyda'r dŵr yn cael ei hidlo gan y gwely o gyrs i'w llyn hwyaid. Er mwyn helpu i leihau'r defnydd o ddŵr, ac er mwyn monitro faint o ddŵr maent yn ei ddefnyddio, maent hefyd wedi gosod mesurydd dŵr. 

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut allwch chi wneud newidiadau yn eich busnes, lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Dŵr.
 

Gwastraff

Os welwch chi rywbeth ar safle Bryn Elltyd, mae'n debyg ei fod wedi'i ailgylchu! Caiff gwydr, papur, a phlastig eu hailgylchu. Dim ond cynnyrch glanhau cyfeillgar i'r amgylchedd, papur toiled wedi'i ailgylchu a phapur argraffu wedi'i ailgylchu y defnyddiant yno!

Gyda sgiliau peirianneg da yn y tîm, maent yn atgyweirio ac yn ailgylchu yn ôl yr angen, yn hytrach nag anfon pethau i safleoedd tirlenwi. Ar ben hynny, er mwyn lleihau gwastraff, dim ond un bin gwastraff mawr sydd ganddynt ar gyfer 15 o bobl, a chaiff y bin gwastraff hwnnw ei wagio bob tair wythnos.

Eisiau gwybod sut allwch droi eich gwastraff yn rhywbeth cadarnhaol? Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Gastraff.

Ynni

Mae Bryn Elltyd yn hen law ar ynni adnewyddadwy! Mae'r lle yn gwbl garbon niwtral, gyda thrydan a gwres adnewyddadwy, a system gwres canolog biomas sy'n cael ei rheoli gan gyfrifiadur gyda phanelau solar ar ddŵr.

Gyda phanelau trydan solar a thri chyfleuster i wefru ceir trydan, caiff y trydan yno ei gynhyrchu ar y safle neu o ffynonellau cwbl adnewyddadwy. Y tu mewn, mae llosgwr coed effeithlon, sy'n llosgi coed lleol o'r ardd sy'n cwmpasu un erw. Dyma lle oedd pwynt gwefru cyntaf Tesla yng Nghymru! Yn dilyn archwiliad carbon llawn, mae hefyd yn un o'r busnesau prin yn y DU i fod yn garbon negatif. 

A yw hyn wedi rhoi syniad i chi o sut allwch newid y ffordd yr ydych yn defnyddio ynni? Edrychwch ar ein Pecyn Adnoddau Ynni.
 

Cadwyn Gyflenwi

Gyda ffrwythau a llysiau tymhorol wedi'u tyfu ar y safle mewn pridd compost cyfoethog, mae'r tîm ym Mryn Elltyd yn ymdrechu i gadw popeth o fewn radiws o 13 milltir o'r safle. Os oes angen arnynt rywbeth nad ydyw ar y safle, mae'r archfarchnad leol ddwy filltir i ffwrdd. Maent yn cefnogi siopau a busnesau lleol ac yn defnyddio wyau buarth, lleol ond maent yn cadw hwyaid hefyd!

Diddordeb mewn sut all defnyddio'ch cadwyn gyflenwi leol helpu'ch busnes? Darllenwch ein Pecyn Adnoddau Cadwyn Gyflenwi.
 

Cynaliadwyedd gyda John Whitehead, Bryn Elltyd (Saesneg yn Unig)
Cynaliadwyedd gyda John Whitehead, Bryn Elltyd (Saesneg yn Unig)

Rhaglen Ddogfen Lawn