Cyfathrebu eich cyfrifoldeb amgylcheddol
Rhai awgrymiadau ymarferol:
- Anogwch adborth ar gardiau sylwadau.
- Gofynnwch i ymwelwyr roi ystyriaeth i’r amgylchedd yn ystod eu harhosiad. Gallwch fod yn foesol ac arbed arian ar yr un pryd.
- Efallai y penderfynwch gael eich archwilio’n llawn ar gyfer cynllun neu safon gynaliadwy. Arfer dda yw cyfathrebu unrhyw gyflawniadau neu lwyddiannau.
- Rhowch eich polisi amgylcheddol ar eich gwefan, ym mhecynnau croeso’r ymwelwyr ac/neu yn y dderbynfa.
- Gall gwella cynaliadwyedd eich busnes wella/cryfhau profiad cyffredinol yr ymwelydd.
- Bydd amryw o sefydliadau megis partneriaethau twristiaeth, parciau cenedlaethol neu awdurdodau lleol yn rhoi cymorth i fusnesau gyfathrebu llwyddiannau amgylcheddol. Gallant gyhoeddi logos perthnasol mewn taflenni/gwefannau.