Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth

Green Growth pledge banner - cy

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth yn helpu busnesau twristiaeth Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at 

  • gwella eu cynaliadwyedd, 
  • dangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r llefydd o'u cwmpas, 
  • ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel.

Mae'n cynnig ystod o gamau syml, ymarferol y gellir eu cymryd, megis gwella effeithlonrwydd dŵr ac ynni, a gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol a fydd yn helpu cwmnïau i ddod yn fwy effeithlon, datgarboneiddio ac ennill busnes newydd. 

Trwy gofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth, gofynnir i'ch busnes ymrwymo i un neu ragor o gamau cadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd wrth sicrhau perfformiad cynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol                                           
  • Trafnidiaeth effeithlon a logisteg                                                     
  • Defnyddio tir, ynni a dŵr yn ddoeth                                           
  • Mesur effeithiau eich busnes                                   
  • Gwella llesiant staff a'ch cymuned leol
  • Defnyddio deunyddiau pecynnu priodol
  • Atal gwastraff a llygredd
  • Adolygu cynhyrchion a gwasanaethau
  • Hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy 

Gallai llofnodi'r Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth helpu eich busnes i:

  • Arbed arian yn y tymor hir
  • Dod yn fwy effeithlon a chynyddu ei wytnwch  
  • Gwella delwedd ei frand a chael mantais gystadleuol
  • Gosod arferion gorau i eraill eu dilyn

Gallech hefyd ymuno â chymuned gynyddol o dros 2,150 o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth o ran cynaliadwyedd gan Busnes Cymru, gan helpu Cymru i ddatgarboneiddio ac anelu at ddyfodol carbon isel.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig mynediad at wybodaeth, gweithdai, gwybodaeth ar-lein, gwasanaeth ffôn a chyngor rhithiol wyneb yn wyneb, yn ogystal â chefnogaeth arbenigol.

Cynhelir gweithdai rhithwir a gweminarau'n rheolaidd i helpu gyda gwahanol faterion busnes sy'n rhoi mynediad at arbenigedd annibynnol a diduedd.

Os hoffech gefnogaeth ychwanegol, neu drafod eich opsiynau, cofrestrwch â Busnes Cymru
 

Gwnewch eich addewid am Gymru

Gwnewch eich addewid am Gymru wyrddach a mwy cynaliadwy trwy lofnodi ein Adduned Twf Gwyrdd. Cofiwch annog eich ffrindiau i wneud hyn hefyd.

117 addewidion wedi eu gwneud

Cefnogaeth Busnes

Os hoffech gefnogaeth ychwanegol, neu drafod eich opsiynau, cofrestrwch â Busnes Cymru

Cofrestwch heddiw