Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar waith i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol.
Dyma'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol:
- Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd De-ddwyrain Cymru (CCRSP)
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRSP)
- Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r pedair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i nodi blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol ac is-rhanbarthol.
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn elfen ganolog o'r dirwedd sgiliau rhanbarthol, gan ddarparu gwybodaeth am y farchnad lafur i Lywodraeth Cymru. Maent eisoes wedi'u cynnwys mewn dogfennau polisi allweddol fel y Cynllun Prentisiaethau, y Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd a Cymru Sero Net. Mae'r wybodaeth a'r argymhellion a ddarperir ganddynt ar sail ranbarthol ac is-ranbarthol, ynghyd â ffynonellau gwybodaeth eraill, yn allweddol o ran llywio'r gwaith o ddatblygu polisi, cynllunio ein rhaglenni a defnyddio cyllid sgiliau. Mae'r Partneriaethau hefyd yn cefnogi Bargeinion Dinesig a Thwf ledled Cymru, gan withredu fel partneriaethau strategol ar bob mater sy'n ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau.
Cynhyrchwyd y Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol diweddaraf ddiwedd 2022.
Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol 2022-2025
- De Ddwyrain Cymru - Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Gogledd Cymru - Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru - Fersiwn gryno o'r cynllun
- De Orllewin Cymru - Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Partneriaid Rhanbarthol
Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru
Mae Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru'n cynnwys y canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
SianLloydRoberts@gwynedd.llyw.cymru
Gwefan: http://www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru/
Yr Arsyllfa Economaidd: http://nwef.infobasecymru.net/IAS/
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn cynnwys: Ceredigion and Powys.
David.Price@powys.gov.uk
Gwefan: Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru - Growing Mid Wales
Yr Arsyllfa Economaidd: tbc
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De Orllewin Cymru (RLSP)
Mae Partneriaeth Dysgu Ranbarthol y De Orllewin yn cynnwys: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
jelewis@carmarthenshire.gov.uk
Gwefan: https://tyfucanolbarth.cymru/
Yr Arsyllfa Economaidd: https://www.data.cymru/rlp
Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
The Cardiff Capital Region Skills Partnership covers:
Blaenau Gwent, Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Merthyr Tydfil, Monmouthshire, Newport, Torfaen, Rhondda Cynon Taf and Vale of Glamorgan.
Richard.tobutt@newport.gov.uk
Caryn Grimes
Caryn.grimes@newport.gov.uk
Gwefan: http://www.ccrsp.co.uk/cym/data-observatory