Biwroau Cyflogaeth a Menter

Mewn Colegau Addysg Bellach yng Nghymru

Mae Biwroau Cyflogaeth a Menter yn helpu cyflogwyr i gysylltu â myfyrwyr a datblygu eu gweithlu i’r dyfodol.

Mae Biwroau Cyflogaeth a Menter yn darparu pecyn o gyfleoedd i fyfyrwyr llawn-amser a rhan-amser i feithrin sgiliau cyflogadwyedd a menter hanfodol.

Mae’r Biwroau yn rhan o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc – ymrwymiad i ddarparu cymorth i bawb o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru i sicrhau lle mewn addysg neu hyfforddiant, a help i gael gwaith neu fynd yn hunangyflogedig.

Mae’r Biwroau, sy’n gweithredu mewn Colegau Addysg Bellach yng Nghymru, yn gwahodd cyflogwyr i gysylltu â nhw er mwyn cwrdd â myfyrwyr a thrafod cyfleoedd cyflogaeth posibl o fewn eu sefydliadau.

Mae pob Biwro yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr o fewn eu coleg, ond yn agored i feithrin cyfleoedd gyda chyflogwyr eu hardal.

Os ydych chi am recriwtio talent newydd o fewn eich sefydliad, gall y Biwroau eich helpu.

Cysylltwch â Biwro Cyflogaeth a Menter eich coleg lleol:



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.