Gadewch i ni ddechrau gyda’r hanfodion
Mae entrepreneuraeth yn ymwneud â gweld cyfleoedd, datrys problemau, a throi syniadau’n realiti. Nid yw’n ymwneud â dechrau cwmni mawr neu wneud llwyth o arian yn unig (er byddai hynny’n braf). Mae’n ymwneud â chael y sgiliau, yr hyder a’r ffordd o feddwl i reoli dy yrfa a chreu cyfleoedd i ti dy hun.
Er enghraifft, os wyt ti’n hyfforddi i fod yn steilydd gwallt, gall entrepreneuraeth olygu agor dy salon dy hun neu gynnig gwasanaethau symudol. Os wyt ti’n astudio saernïaeth, gall olygu creu dy linell dodrefn dy hun neu weithio fel crefftwr hunangyflogedig.
Hyd yn oed os wyt ti eisiau gweithio i rywun arall ar y dechrau, mae cael sgiliau entrepreneuraidd yn dy wneud yn wahanol – mae’n dangos bod modd i ti feddwl yn annibynnol, datrys problemau ac addasu i heriau.
Mae llawer o yrfaoedd galwedigaethol yn arwain yn naturiol at hunangyflogaeth. Meddylia amdano – mae plymwyr, trydanwyr, hyfforddwyr personol, harddwragedd a ffotograffwyr yn aml yn gweithio iddyn nhw eu hunain.
Os mai dyna dy nod, mae’n hanfodol deall sut i redeg busnes. Bydd angen i ti wybod sut i:
- Ddarganfod cleientiaid a’u cadw’n hapus
- Reoli dy arian (does neb eisiau rhedeg allan o arian neu gael dirwy gan CThEM am fethu â chyflwyno hunanasesiad yn brydlon)
- Farchnata dy hun a’th wasanaethau
- Gosod dy brisiau a thrafod cytundebau
- Delio â methiannau a chadw ati pan fydd pethau’n anodd
Mae’r rhain i gyd yn sgiliau entrepreneuraidd, ac wrth i ti ddod yn well yn eu defnyddio, y mwyaf llwyddiannus fyddi di. Mae bod yn dda yn dy grefft yn bwysig, ond os wyt ti eisiau gweithio’n llawrydd, dod yn hunangyflogedig neu gychwyn busnes, bydd angen y sgiliau ychwanegol hynny arnat ti – a dyna lle gallwn ni dy helpu.
Biwro Cyflogaeth a Menter o fewn y Coleg
Cysyllta â dy Bencampwr Entrepreneuriaeth i weld sut allant dy helpu i ddatblygu dy syniad busnes neu ddod yn hunangyflogedig.
Cymryd ysbrydoliaeth
Am ysbrydoliaeth, darllena straeon dechrau busnes i rai o'r entrepreneuriaid ifanc rydym wedi helpu
Cael dy ysbrydoli gan deithiau entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n rhan o’n rhwydwaith Model Rôl.