Contents
- 1. Sut i adeiladu perthynas fusnes da
- 2. Datblygu cysylltiadau busnes da
- 3. Perthynas â chwsmeriaid
- 4. Perthynas â chyflenwyr
Sut i adeiladu perthynas fusnes da
Byddwch yn chwarae gwahanol rolau wrth ddelio â chwsmeriaid, cyflenwyr a phobl fusnes fel eich rheolwr banc neu’ch cyfrifydd. Ond peidiwch â gadael i hyn eich dychryn. Mae’n debyg eich bod eisoes yn chwarae’r holl rolau hyn yn eich bywyd heb hyd yn oed sylweddoli hynny! Cwrdd â phobl, adeiladu perthnasoedd, gwrando, dysgu – mae’n ymwneud â’r pethau sylfaenol o ddod ymlaen gyda phobl. Mae meithrin perthnasoedd cwsmeriaid rhagorol yn ffordd wych o gadw busnes presennol ac ennill mwy drwy argymhellion gan eraill.
Datblygu cysylltiadau busnes da
Pam fod creu cysylltiadau busnes cryf mor hanfodol?
Oherwydd :
- Yn ei hanfod, mae busnes yn ymwneud â phrynu a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Ac ni fedri wneud yr un o’r ddau heb siarad â phobl eraill!
- Mae bywyd yn fwy o hwyl pan fyddi’n cyd-dynnu â phobl!
- Os wyt yn meithrin perthynas gref gyda phobl eraill byddi mewn llai o berygl o unrhyw fwriadau cudd neu ddig personol a allai danseilio dy lwyddiant.
- Bydd anfodlonrwydd ymysg cwsmeriaid yn llawer llai tebygol - byddi’n gallu taclo problemau yn eu blagur oherwydd dy fod yn eu hadnabod ac maent yn dy barchu.
- Bydd cyflenwyr, cwsmeriaid, cydweithwyr a chynghorwyr yn hapusach i dy gefnogi (gan roi gwybodaeth, cyfarwyddyd ac ati) -hanfodol os wyt ti'n mynd i wneud y penderfyniadau cywir. Byddant hefyd yn dy hysbysu am unrhyw dueddiadau a thynnu sylw at broblemau neu gyfleoedd posibl.
- Mae pobl yn mynd gam ymhellach ar gyfer pobl maent yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu - a byddant yn llawer mwy tebygol o brynu nwyddau a gwasanaethau.
Mae perthnasau â phobl eraill yn aml yn reddfol iawn, ond mae camau ymarferol y gelli eu cymryd i adeiladu credyd yn y banc perthnasau. Wedi'r cyfan, dwyt ti byth yn gwybod pryd y byddi ei angen!
Magu mwy o berthnasau – dylet gymryd mwy o ddiddordeb mewn eraill yn hytrach na cheisio cael pobl eraill i gymryd diddordeb ynot.
Perthynas â chwsmeriaid
Byddi’n gallu dod i’w hadnabod fel unigolion mewn modd agored a chyfeillgar. Bydd eu teyrngarwch yn hanfodol i dy lwyddiant. Bydd cwsmer bodlon yn dweud wrth hanner dwsin o bobl am y gwasanaeth rhagorol - bydd cwsmer anfodlon yn dweud wrth 20 am beidio â dy ddefnyddio. Siarada â dy gwsmeriaid yn rheolaidd, am beth maent yn chwilio a cheisio rhagweld eu hanghenion yn y dyfodol. Dangosa fod gen ti ddiddordeb ynddynt nid yn unig fel cwsmer ond hefyd fel pobl go iawn. Paid â bod yn or-gyfeillgar, ond datblyga berthynas hydrin. Gwna’n sicr dy fod yn darparu gwasanaeth gwirioneddol bersonol - a gwna’n sicr dy fod yn darparu.
Perthynas â chyflenwyr
Gyda chyflenwr a phartneriaid eraill, byddi eisiau meithrin perthynas tymor hir sy’n dod â budd i’r ddwy ochr ac sy'n diwallu anghenion pawb. Gall hyn ymddangos fel rhywbeth y byddai'n well gen ti ei osgoi - ond paid â chymryd hyn yn bersonol. Ceisia fod yn wrthrychol yn lle hynny – busnes ydi hyn, wedi'r cyfan. Pe baet yn meddwl am y peth mewn termau cadarnhaol, fel yr awydd i ddeall anghenion a diddordebau unigol dau barti, a dod o hyd i’r atebion i fodloni’r ddau, gall ymddangos yn fwy hylaw.