- Sector:
- Diwydiannau Creadigol
- Rhanbarth:
- Powys
Mae ffotograffiaeth wastad wedi bod yn fwy na dim ond hobi i mi - roedd yn rhywbeth roeddwn i’n teimlo cysylltiad dwfn ag ef, ond am gyfnod hir fe aeth i’r cefndir tra roeddwn i’n gweithio yn y byd corfforaethol. Dros amser, dechreuais deimlo’n fwyfwy anhapus, yn llosgi allan, ac yn sownd mewn amgylchedd oedd yn cael effaith ddifrifol ar fy iechyd meddwl.
Yn 2020, cyrhaeddais drothwy. Ar ôl profi bwlio yn y gweithle a mynd drwy feichiogrwydd ectopig, roeddwn i’n gwybod na allwn i barhau fel roedd pethau. Sylweddolais fod rhaid imi gymryd rheolaeth dros fy mywyd a’m hapusrwydd fy hun.
Felly, fe wnes i benderfyniad a newidiodd bopeth. Gadawais y byd corfforaethol a bwrw ati’n llawn amser i adeiladu fy musnes ffotograffiaeth. Yn ystod y cyfnod clo, rhoddais fy holl egni a’m hymdrech i ddatblygu fy brand a fy mhortffolio. Doedd dechrau o’r dechrau ddim yn hawdd, ond fe wnes i roi popeth oedd gen i.
Ers hynny, dwi heb edrych yn ôl.
Heddiw, rwy’n gweithio fel ffotograffydd priodasau candid a ffotograffydd grymuso, ac rwy’n gallu dweud yn onest nad wyf erioed wedi bod yn hapusach nac yn fwy hyderus ynof fy hun. Trwy fy musnes, nid yn unig rydw i wedi adeiladu gyrfa rydw i’n ei charu, ond rydw i hefyd wedi adennill rheolaeth dros fy hapusrwydd.
Mae llawer o fy ysbrydoliaeth yn dod o’r bobl o’m cwmpas - yn enwedig menywod eraill mewn busnes. Mae llawer o’m ffrindiau agosaf yn fenywod sy’n rhedeg eu mentrau eu hunain, ac rwy’n cael cymhelliant ym mhob menyw rwy’n ei chwrdd. Mae hynny’n siapio ochr grymuso fy ngwaith, lle mae fy nod yn syml: helpu menywod i deimlo’n gryf, yn ddiogel, ac yn bwerus ynddyn nhw eu hunain.
Nid yw bod yn fos arnoch eich hun yn ymwneud â hyblygrwydd yn unig - mae’n ymwneud â rhyddid. I mi, mae’n rhyddid i greu, i fynegi fy hun drwy gelf, ac i weithio gyda phobl sy’n ymddiried ynof ac yn deall fy ngweledigaeth. Mae rhywbeth arbennig am allu troi creadigrwydd yn yrfa ac i rannu eich hunan go iawn gyda’r byd.
Mae fy ngwaith yn ymwneud â straeon. Rwyf wedi ffotograffu dros 200 o briodasau, a’r hyn rwy’n ei garu fwyaf yw dal y munudau gwirioneddol, naturiol - y rhai bach sy’n hawdd eu colli. Mae’n ymwneud ag adrodd hanes cyflawn diwrnod arbennig mewn ffordd sy’n caniatáu i gyplau ail-fyw pob eiliad, hyd yn oed y rhai na wnaethon nhw sylwi arnynt ar y pryd.
Yn ogystal, rwy’n angerddol iawn dros rymuso menywod a dathlu’r corff benywaidd mewn ffordd onest ac ysbrydoledig. Mae gallu gwneud hyn drwy fy ngwaith - a helpu eraill i weld eu hunain mewn goleuni mwy cadarnhaol - yn rhywbeth oedd unwaith yn freuddwyd i mi, ac sydd bellach yn realiti bob dydd.
Mae fy nhaith yn dangos bod yr adegau anoddaf yn gallu arwain at y newidiadau mwyaf pwerus. Roedd cymryd y cam cyntaf i’r anhysbys yn frawychus, ond fe wnaeth hynny fy ngalluogi i greu rhywbeth ystyrlon, creadigol, ac yn gwbl fy hun.