- Sector:
- Cyllid a Gwasanaethau ProffesiynolRetail
- Rhanbarth:
- Caerdydd
O adael adref yn 17 oed i dyfu nifer o fusnesau llwyddiannus, mae [Enw] yn dyst i wydnwch, dewrder a grym credu yn eich hun - waeth beth fo’ch man cychwyn.
Beth a’m hysbrydolodd
Dechreuodd fy nhaith mewn gwirionedd pan gefais fy swydd gyntaf dramor gyda chwmni gwyliau yn 17 oed. Roedd yn gam mawr tuag at annibyniaeth, ac fe daniodd hyder sydd wedi siapio pob cam ers hynny.
Yn yr ysgol, dywedwyd wrthyf mai prif steilwraig fyddwn i fwy na thebyg. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn rhoi llawer o feddwl iddo - ond wrth i mi dyfu’n hŷn, sylweddolais ei fod yn adlewyrchu disgwyliadau cyfyngedig eraill amdanaf. Yn lle fy nal yn ôl, fe wthiodd hyn fi ymlaen. Fe’m hysgogodd i brofi beth oeddwn yn gallu ei gyflawni. Yn eironig, dysgais yn ddiweddarach fod bod yn brif steilwraig unrhyw le yn y byd yn yrfa wych gyda chyfleoedd diddiwedd - felly doedden nhw ddim mor bell ohoni!
Wrth i mi aeddfedu, darganfyddais fy ngalluoedd naturiol: cysylltu â phobl, rheoli prosiectau a datblygu eraill. Dysgodd y profiadau hyn bwysigrwydd hyder, gwydnwch a hunan-gred - gwerthoedd sy’n fy yrru nawr i gefnogi a grymuso menywod eraill i adnabod eu cryfderau eu hunain.
Sut a pham y dechreuais fy musnesau
Yn ystod covid, cefais rywfaint o amser sbâr - ac o helpu fy mhartner gyda’i garej un uned, daeth rhywbeth llawer mwy. Dechreuais ddatblygu’r busnes, adeiladu prosesau a gweledigaeth glir, ac erbyn heddiw mae’r garej honno wedi tyfu’n Cardiff Garage Ltd, sy’n gweithredu ar draws sawl safle, gyda sgôr pum seren a thîm o wyth.
Ar yr un pryd, rwyf wedi treulio blynyddoedd fel Cynghorydd Busnes Cymwysedig, Rheolwr Gweithrediadau a Chyflwynydd/Hyfforddwr gan fentora entrepreneuriaid drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, Syniadau Mawr Cymru ac Enterprise Nation. Mae cefnogi eraill i adeiladu eu breuddwydion wedi bod yn angerdd mawr i mi erioed.
Dechreuodd fy nhaith ym myd harddwch flynyddoedd cyn hynny, wedi ei sbarduno gan ddiflastod y swydd 9–5 draddodiadol a’r awydd am her newydd. Fe hyfforddais gyda’r nos, masnachu ar benwythnosau, a thyfodd y busnes yn alwedigaeth amser llawn. Gyda 16 mlynedd o brofiad mewn lliwio chwistrell, gwelais fwlch yn y farchnad - a manteisio arno. Trodd hynny’n salon ffyniannus, gwasanaeth arbenigol ar gyfer partïon priodas, a chyfleoedd hyfforddi ledled Ewrop i frand mawr yn y DU.
Am fy musnesau
Heddiw, rwy’n rhedeg tri busnes, pob un wedi’i eni o greadigrwydd, uchelgais a’r gred mewn manteisio ar gyfleoedd:
Cardiff Garage Ltd
Busnes modurol aml-safle sy’n cynnig MOTau, atgyweiriadau a gwasanaethu ceir, glanhau ac arwerthiant cerbydau. Wedi tyfu o un uned i weithrediad llawn, mae’r busnes yn parhau i ffynnu gyda chryddfryd lleol cadarn.
You Can Consultancy
Gwasanaeth mentora a hyfforddi sy’n ymroddedig i ysbrydoli a grymuso menywod i ddechrau, tyfu a ffynnu yn y byd busnes. Fy nghenhadaeth yw helpu menywod i adeiladu hyder, gwydnwch a’r offer ymarferol sydd eu hangen arnynt i lwyddo.
Arlunydd & Hyfforddwraig Lliwio Chwistrell
Gyda dros 16 mlynedd o brofiad, rwyf wedi arbenigo mewn lliwio priodasol, hyfforddi gweithwyr proffesiynol ledled Ewrop ac arwain fy salon fy hun am ddegawd. Mae’r busnes hwn yn dal i roi’r cyfle i mi ddysgu, teithio a chysylltu â phobl anhygoel.