Role model

Mark Boucher

Future Digital Education
Mark Boucher
Sector:
Information Communication Technology (ICT)
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

I Mark, nid oedd entrepreneuriaeth erioed yn ymwneud â dechrau busnes yn unig. Roedd yn ymwneud â chael rhyddid, cymryd rheolaeth dros ei ddyfodol a chreu rhywbeth ystyrlon ar ei delerau ei hun.

Heddiw, mae Mark yn rhedeg busnesau ym maes datblygu eiddo, manwerthu, hyfforddiant a chynhyrchu cyfryngau drwy Future Digital Education, ond dechreuodd ei daith entrepreneuraidd ymhell cyn llunio unrhyw gynllun busnes ffurfiol.

Cafodd Mark ei ysbrydoli'n gynnar gan ei dad, a oedd yn rhedeg busnes adeiladu. Wrth weld y llwyddiannau, yr heriau a'r risgiau a ddaw gyda chreu rhywbeth o'r newydd, datblygodd angerdd dros fusnes a menter. Y profiadau hynny a sbardunodd uchelgais a fyddai'n llywio ei yrfa gyfan.

"Roeddwn i wastad eisiau bod yn ben arnaf fy hun," meddai Mark. "Doeddwn i ddim eisiau dibynnu ar rywun arall i benderfynu fy nyfodol."

Roedd ei awydd i lwyddo yn amlwg o oedran ifanc. Rhwng 10 a 21 oed bu'n rasio motocrós, gan ddatblygu'r ddisgyblaeth, y dyfalbarhad a'r gwydnwch a fyddai'n allweddol yn nes ymlaen. Yn 22 oed lansiodd ei gwmni eiddo cyntaf, ac erbyn 26 oed roedd wedi trawsnewid tair tŷ teras adfeiliedig yn siop Spar lwyddiannus, gan ddod yn un o berchnogion siopau trwyddedig ieuengaf Cymru.

Arweiniodd ei agwedd entrepreneuraidd ef wedyn i fyd y cyfryngau a ffilm. Gan adeiladu gyrfa lwyddiannus gyda sefydliadau fel y BBC, ITV, S4C a Netflix, llwyddodd i gyfuno creadigrwydd â masnach. Enillodd gydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith fel sinematograffydd ar y ffilm Hope Eternal, a gafodd enwebiad Oscar.

Gan dynnu ar dros dri degawd o brofiad mewn adeiladu, manwerthu, eiddo a chyfryngau, sefydlodd Mark Future Digital Education. Mae'r busnes yn uno adrodd straeon, technoleg ac arloesedd i greu profiadau dysgu digidol sy'n helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf. Trwy gyfuno cynhyrchu cyfryngau o safon uchel â thechnolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial (AI), fideo a chyfryngau trochi, mae'r cwmni'n paratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith sy'n newid yn gyflym.

I Mark, un o'r manteision mwyaf o fod yn entrepreneur yw'r rhyddid i greu ei lwybr ei hun.

"Mae bod yn ben arnoch chi'ch hun yn rhoi'r cyfle i adeiladu'r ffordd o fyw rydych chi ei heisiau. Gallwch wneud penderfyniadau, dilyn eich angerdd a throi syniadau yn brosiectau go iawn."

Wrth gwrs, nid yw'r daith wedi bod heb heriau. Mae mwy na 30 mlynedd mewn busnes wedi dysgu iddo fod rhyddid yn dod gyda chyfrifoldebau. O reoli llif arian i arwain timau a delio â phwysau ariannol, mae pob her wedi bod yn gyfle i ddysgu a thyfu.

"Mae ateb i bob problem. Y peth pwysig yw aros yn wydn, dal ati a gweld heriau fel cyfleoedd."

Ei gyngor i entrepreneuriaid ifanc yw credu ynddynt eu hunain, bod yn barod i weithio'n galed a pheidio ag ofni cymryd risgiau cyfrifedig. Anaml y mae'r llwybr at lwyddiant yn syth, ond gyda phenderfyniad, gwydnwch a'r parodrwydd i ddysgu, gall syniadau mawr droi'n gyfleoedd anhygoel.

Profiad ar draws sectorau

  • Adeiladu a gwaith coed: cychwyn a rhedeg busnes, rheoli prosiectau, datrys problemau ymarferol, gweithio i derfynau amser, a chyflawni canlyniadau o ansawdd.

  • Eiddo a manwerthu: prynu a datblygu eiddo, troi adeiladau yn fusnesau, deall buddsoddiad, gwasanaeth cwsmer, stoc, cynllunio, a chyfrifoldeb ariannol.

  • Y cyfryngau, ffilm, teledu a theatr: meithrin hyder creadigol, adrodd straeon, gwybodaeth cynhyrchu, ysgrifennu sgriptiau, sgiliau cyflwyno, gwaith tîm, cyfathrebu, a disgyblaeth broffesiynol.

  • Marchnata a chyfathrebu: deall cynulleidfaoedd, llunio negeseuon,

  • hyrwyddo syniadau, cyflwyno gwerth, a helpu pobl i gyfathrebu’n eglur ac yn bwrpasol.

  • Addysg a dysgu digidol: addysgu, mentora, hyfforddi, cymorth cwricwlaidd, datblygu sgiliau digidol, paratoi cyfweliad, hyfforddiant cyflogadwyedd, a meithrin hyder dysgwyr.
  • Datblygu busnes a chymunedau: adeiladu partneriaethau, cefnogi pobl
  • ifanc, annog menter, a chreu rhaglenni creadigol sydd ag effaith gymdeithasol gadarnhaol.

Gwersi a sgiliau cadarnhaol i’w rhannu gydag entrepreneuriaid ifanc

  • Hunangred: mae cychwyn busnes yn gofyn am hyder, ond mae hyder yn tyfu drwy weithredu, ymdrech, a phrofiad.
  • Annibyniaeth a chyfrifoldeb: mae bod yn fos arnoch chi eich hun yn golygu gwneud penderfyniadau, derbyn cyfrifoldeb, a dysgu o ganlyniadau.
  • Datrys problemau: mae gan bob sector ei heriau, o ddod o hyd i grefftwyr talentog i reoli terfynau amser, cyllidebau, a disgwyliadau cleientiaid.
  • Ymwybyddiaeth ariannol: mae rheoli llif arian, ariannu prosiectau, prisio gwaith, a deall gwerth yn sgiliau busnes hanfodol.
  • Y gallu i addasu: gall sgiliau sy’n cael eu datblygu mewn un diwydiant agor drysau i un arall, p’un a yw mewn gwaith adeiladu, manwerthu, y cyfryngau, addysg, neu waith cymunedol.
  • Cyfathrebu: mae gweithio gyda chleientiaid, cwsmeriaid, dysgwyr, partneriaid, a thimau yn meithrin y gallu i wrando, esbonio, cyflwyno, a sbarduno.
  • Creadigrwydd ac arloesedd: mae meddwl creadigol yn ddefnyddiol ym mhob busnes, o ddatblygu eiddo i gynhyrchu cynnwys cyfryngau neu ddylunio rhaglenni dysgu.
  • Gwytnwch: gall rhwystrau, cystadleuaeth, taliadau hwyr, a phwysau fod yn wersi gwerthfawr os gwnewch chi barhau i ddysgu a symud ymlaen.
  • Arweinyddiaeth: mae entrepreneuriaeth yn eich addysgu i gymryd cyfrifoldeb, arwain eraill, gwneud penderfyniadau, a pharhau i ganolbwyntio ar eich nodau.
  • Rhoi’n ôl: mae profiad yn dod yn fwy pwerus pan mae’n cael ei rannu gyda phobl ifanc i’w helpu i ddatblygu uchelgais, hyder, a chred yn eu dyfodol eu hunain.

Erbyn hyn, rwy’n gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau, yn cyflwyno rhaglenni sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. O wneud ffilmiau a hyfforddi cyfryngau i astudiaethau busnes, marchnata,paratoi at gyfweliad, meithrin hyder a gwaith tîm, mae pob rhyngweithio wedi’i ddylunio i arfogi dysgwyr gyda sgiliau ymarferol, uchelgais, a hyder ar gyfer y dyfodol.

Heriau’n cael eu troi’n gryfderau

  • Fe wnaeth dod o hyd i bobl fedrus ddysgu pwysigrwydd rhwydweithio, cynllunio ymlaen, adeiladu timau dibynadwy, a chydnabod gwerth gwaith crefft da.
  • Fe wnaeth ariannu prosiectau wrth aros am daliadau ddatblygu fy nisgyblaeth ariannol, fy amynedd, fy ymwybyddiaeth o lif arian, a’r gallu i barhau’n ymrwymedig dan bwysau.
  • Dangosodd cystadlu â chwmnïau sy’n cynnig prisiau is bwysigrwydd proffesiynoldeb, ansawdd, enw da, a chyfleu gwerth eich gwaith i mi.

Mae’r brif neges rwy’n ei rhannu ag entrepreneuriaid ifanc yn syml: chi sy’n rheoli eich ffawd eich hun. Yr hyn a heuir a fedir. Peidiwch â chyfyngu eich hun i un diwydiant, un teitl, neu un fersiwn o lwyddiant. Mae’r sgiliau a ddysgir a rhyd y ffordd yn rhan o’ch pecyn cymorth, a gyda’r meddylfryd cywir gallent eich helpu i greu cyfleoedd, cynorthwyo eraill, a llunio eich dyfodol eich hun.

Find out more
Wefan : Future Digital Education

Business Wales are in no way responsible for 3rd party content


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.