Modelau rôl

Manjit Biant

Business & Accounting Lecturer
Manjit Biant
Sector:
Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
Rhanbarth:
Sir Gaerfyrddin

O fentro i fyd ymgynghoriaeth i helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, mae ei daith yn dangos sut gall dewrder, chwilfrydedd a hunangred agor drysau newydd.

Mae’n rhedeg ymgynghoriaeth sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth, busnes, rheolaeth a chyllid - gan gefnogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu’r wybodaeth a’r strategaethau sydd eu hangen i lwyddo.

Nid oedd ei daith yn un linell syth. Yn hytrach, daeth o sylweddoli bod cyfleoedd mewn bywyd yn ymddangos ond ddim yn aros yn hir. Pan ddaeth y cyfle, penderfynodd gymryd y risg a mentro i fyd ymgynghoriaeth. Roedd y syniad o weithio iddo’i hun yn apelio’n fawr - ac roedd hefyd yn ddewis ymarferol.

Daeth ei ysbrydoliaeth o lefydd annisgwyl. Wrth wylio rhaglenni teledu blynyddoedd yn ôl, cafodd gipolwg ar waith ymgynghorwyr, a dechreuodd ddychmygu ei hun yn y rôl honno. Cofiai un rhaglen yn benodol lle roedd ymgynghorydd yn gymeriad allweddol, a’i feddwl oedd: “Hoffwn wneud y gwaith yna.” Ar yr un pryd, wrth fynychu cyrsiau hyfforddi, roedd yn aml yn pendroni sut roedd y hwyluswyr wedi cyrraedd y sefyllfa honno - ac a allai yntau wneud yr un peth.

Fel llawer o entrepreneuriaid, wynebodd heriau ar hyd y ffordd. Roedd yn rhaid iddo oresgyn ofn a theimladau o fod yn “ddim cystal ag eraill” (imposter syndrome), yn ogystal â phwysau ymarferol fel llif arian ansad ar adegau. Ond drwy ddyfalbarhad a phenderfyniad, llwyddodd i adeiladu hyder a gwydnwch - gan ddysgu mai y tu allan i’r parth cysur y mae twf yn digwydd.

Heddiw, un o’r pethau mae’n ei werthfawrogi fwyaf am fod yn fos arno’i hun yw’r rhyddid - y gallu i wneud dewis, rheoli ei amser a llywio ei gyfeiriad ei hun.

Gyda phrofiad mewn cyllid, cyllidebu, busnes, rheolaeth ac arweinyddiaeth, mae’n angerddol am rannu ei wybodaeth a helpu eraill i wireddu eu potensial. Mae ei stori yn atgoffa mai weithiau dim ond penderfyniad i gymryd siawns sydd ei angen i ddechrau adeiladu dyfodol ar dy delerau dy hun.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.