Modelau rôl

Lleucu Ifans

Actif-i-ti
Lleucu Ifans
Sector:
Miscellaneous
Rhanbarth:
Ceredigion

Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, roeddwn i’n teimlo’n aml bod bwlch yn y cyfleoedd oedd ar gael i bobl ifanc o gymharu â’r rheini mewn trefi a dinasoedd. Roeddwn i’n gweld pa mor bwysig oedd cael mynediad at brofiadau chwaraeon ac weithgareddau amrywiol i feithrin hyder, lles ac uchelgais - ac roeddwn i eisiau dod â’r cyfleoedd hynny’n agosach at adref.

Dyna sut y dechreuodd fy musnes. Lansiais Actif-i-ti gyda’r nod o ddarparu hyfforddiant chwaraeon o safon, rhaglenni llythrennedd corfforol a gweithgareddau lles mewn ysgolion, meithrinfeydd a chymunedau. Dechreuodd y cyfan yn fach, ond tyfodd yn gyflym wrth i fwy o bobl weld gwerth yr hyn oeddem yn ei wneud. Dros amser, dechreuais gyflwyno syniadau newydd a chyffrous i ddigwyddiadau a dathliadau lleol, gan arwain at greu ail fusnes, Par-ti, sy’n canolbwyntio ar gynnal digwyddiadau a phartïon hwyliog a chynhwysol i bawb.

I mi, nid oedd adeiladu’r busnes yn lleol yn benderfyniad busnes yn unig - roedd yn bersonol iawn. Roedd aros yn yr ardal a magu fy mab yma yn bwysig iawn i mi. Roeddwn i eisiau iddo ef, a phobl ifanc eraill mewn cymunedau gwledig, gael yr un cyfleoedd cyffrous ag sydd i’w cael mewn dinasoedd. Yn hytrach na symud i ffwrdd i chwilio am y profiadau hynny, roeddwn i’n benderfynol o’u creu yma.

Fel gyda llawer o entrepreneuriaid, nid yw’r daith wedi bod heb ei heriau. Daeth COVID ar ddechrau’r busnes, ac roedd popeth bron yn stopio dros nos. Aeth fy niwrnodau o fod yn llawn gwaith i fod bron yn wag. Roedd yn gyfnod anodd ac ansicr, ond gorfododd fi i addasu ac ailfeddwl sut i symud ymlaen. Er yn heriol, roedd y profiad hwnnw’n un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr yn fy nhaith ac wedi cryfhau fy ngwydnwch.

Yr hyn sy’n fy ysgogi yw’r cyfle i herio fy hun a llunio fy llwybr fy hun. Mae adeiladu rhywbeth o’r newydd mewn ardal sy’n golygu cymaint i mi wedi bod yn hynod werth chweil. Rwy’n gobeithio y bydd fy stori’n dangos nad oes rhaid i chi adael eich cymuned i gyflawni rhywbeth ystyrlon.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.