Modelau rôl

Dr Nerys Llewelyn Jones

Agri Advisor
Dr Nerys Llewellyn Jones
Sector:
Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
Rhanbarth:
Sir Gaerfyrddin

Creu fy musnes fy hun oedd rhywbeth yr oeddwn i wastad wedi dyheu amdano, ac wrth i mi fagu ein teulu ifanc, cefais y cyfle i droi’r freuddwyd hon yn realiti; ac i ddechrau busnes o’r dechrau. 
 
Roeddwn i eisiau gweithio yn y maes cyfreithiol o leoliad cyfleus yng nghefn gwlad Cymru.
 
Erbyn hyn mae gan Agri Advisor naw swyddfa a thîm o dros hanner cant o unigolion, y mwyafrif ohonynt yn dod o gefndiroedd gwledig. 
 
Fel busnes rydym yn gwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn cynghori busnesau fferm a’r bobl hynny sy’n byw yn ein cymunedau gwledig.  Mae ein cleientiaid yn dod o bob cwr o Brydain, ac rydym yn cynnig cyngor ar sawl maes gwahanol, o gynllunio olyniaeth a gwiliau, i brynu a gwerthu asedau a delio â phroblemau o bob math. Rydym hefyd yn cynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg, sy’n arbennig o bwysig i mi, aelodau’r tîm, a’r cleientiaid.

Daw fy ysbryd mentrus oddi wrth fy rhieni, gan eu bod wedi dangos pwysigrwydd canolbwyntio ac ethos gwaith caled, a’r cyfleoedd sy’n deillio o hynny i wireddu uchelgeisiau. Cefais y hyder i gymryd y cam mawr o ddechrau’r busnes ar ôl derbyn cyngor arbenigol ar sefydlu busnes.

Pe bawn i’n rhestru’r holl broblemau a all godi yn y byd busnes, byddai’n rhestr ddiddiwedd; ond rwy’n edrych arnynt mewn ffordd gadarnhaol ac yn ceisio dysgu rhywbeth o bob her. Mae datrys problemau’n dod yn rhan fawr o redeg busnes, yn ffodus i mi mae hon hefyd yn sgil a ddefnyddir yn aml fel cyfreithiwr.

Rwy’n caru gwneud penderfyniadau am gyfeiriad ac amcan y busnes; eto, drwy greu ethos o gydweithio agos fel tîm o fewn y busnes. Bydd datblygiad parhaus busnes bob amser yn sicrhau eich bod yn aros ar y blaen i gystadleuwyr ac, yn y gobaith, yn sicrhau cleientiaid sy’n dychwelyd, yn chwilio am gyfleoedd newydd o’ch cynnig busnes.

Fy nghyngor fyddai treulio digon o amser yn ymchwilio’n drylwyr i’ch syniad busnes. Siaradwch ag eraill sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg. Meddyliwch nid yn unig am sut i ddechrau’r busnes ond hefyd sut y byddwch yn ei gau yn y pen draw. Hefyd, byddwch yn agored i weithio gydag eraill sy’n dangos cryfderau gwahanol i chi gan y gallant gryfhau eich tîm a’ch busnes – gwybod eich cryfderau a’ch gwendidau a sut i fynd i’r afael â’r bylchau hynny. Byddwch yn barod i newid eich cynlluniau a rhoi popeth y gallwch i’r busnes i sicrhau llwyddiant. 
 
Dilynwch eich breuddwydion i gyflawni eich nodau.
Find out more
Wefan : Agri Advisor

Business Wales are in no way responsible for 3rd party content


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.