Modelau rôl

Adrian Bamford

Neath Music Ltd
Adrian Bamford
Sector:
Diwydiannau Creadigol
Rhanbarth:
Castell-nedd Port Talbot

Fel entrepreneur gyda 40 mlynedd o brofiad ymarferol o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth ac adloniant byw; fel peiriannydd sain byw, dylunydd systemau sain, dylunydd sain, cerddor sy’n perfformio, a gweithredwr busnes.

Yn fy arddegau, disgynnais mewn cariad â cherddoriaeth a pherfformio cerddoriaeth yn fyw, ac fe benderfynais yn fuan fy mod am gael gyrfa yn y diwydiant: Es yn weithiwr llawrydd yn fy ugeiniau cynnar ac rwyf wedi bod mewn busnes byth ers hynny.
 

Mae set sgiliau eang a'r gallu i ymateb i newid yn bwysig iawn mewn busnes, felly yn ystod fy ngyrfa rwyd wedi gweithio fel cerddor proffesiynol, peiriannydd sain, peiriannydd gosod, dylunydd sain, newyddiadurwr technegol ac mewn llawer o rolau eraill. Yn y cyfamser, roedd yn rhaid i mi ddysgu dod yn weithredwr busnes cymwys ac effeithiol hefyd. Rwyf wedi rhedeg sawl strwythur busnes, o weithio unig fasnachwr i redeg cwmni cyfyngedig. Yn ogystal, enillais Radd Meistr Gwyddoniaeth ar hyd y ffordd, sy'n rhoi persbectif academaidd gwerthfawr i mi.
 

Rwyf wedi gweld nifer di-rif  o gamau technolegol ymlaen dros y blynyddoedd ac, yn hollbwysig, rwyf wedi sicrhau fy mod i'n gwybod am unrhyw arloesedd newydd: mae'n rhaid i chi gadw'ch set sgiliau'n gyfredol. Dros y blynyddoedd rydw i wedi teithio'n helaeth gyda gwahanol gynyrchiadau cerddoriaeth fyw, ac ar hyn o bryd rwy’n teithio gyda sioe theatr lwyddiannus. Ond fel bob amser, y tu ôl i unrhyw fenter mae busnes i'w redeg, felly mae'r sgiliau busnes hynny’r un mor hanfodol ag unrhyw sgiliau eraill y gallaf feddu arnynt.
 

Fy nghyngor i unrhyw berson ifanc sy’n chwilio am ffordd i mewn i fy niwydiant (neu unrhyw un arall) yw dod o hyd i ffordd i gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwch wneud hynny.

Nid yw eich doniau’n golygu unrhyw beth os nad oes neb yn gwybod amdanynt - ewch amdani, hyd yn oed fel gwirfoddolwr, a gadael i’r byd weld eich galluoedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.