Case Study, Document

Gweithgaredd 9: Sut ydym ni yn ymdrin a chwsmeriaid?

Is Gynradd - Datblygu sgiliau wrth werthu eu cynnyrch neu wasanaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mai 2026
Download document: 19.96 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan dysgu 

Datblygu sgiliau wrth werthu eu cynnyrch neu wasanaeth. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth

Agwedd 

Hunanhyder 

Cysylltiadau 

Cyfathrebu 

Gweithio gydag eraill 

Trafod, darbwyllo a dylanwadu 

Gweithgareddau dysgu 

Trafodwch gyda’r disgyblion bwysigrwydd gwerthu cynnyrch/gwasanaeth. 

Anogwch ddisgyblion i feddwl am y cwestiynau bydden nhw’n eu gofyn pe bai nhw oedd y cwsmer e.e  

  • “Faint mae’n ei gostio?” 
  • “Sut mae’n gweithio?” 

Trwy chwarae rôl, gofynnwch i’r disgyblion weithio mewn parau i ymarfer sut fyddent yn siarad â, ac yn gwasanaethu cwsmer. 

Gan ddefnyddio termau syml cyflwynwch y syniad o gyllid. Trafodwch gyda’r disgyblion beth mae angen iddynt ei gofnodi a sut y byddant yn cofnodi cyllid eu prosiect e.e 

  • Faint o gynnyrch ydym wedi ei wneud? 
  • Faint mae pob eitem yn costio i’w gynhyrchu? 
  • Beth yw’r pris y byddwn yn godi am bob eitem? 
  • A fydd angen i ni ofyn i’r Pennaeth am fenthyciad bychan? 

Mae’r disgyblion yn dylunio a chynhyrchu labeli pris ac arwyddion ar gyfer eu cynnyrch/ gwasanaeth ac yn penderfynu ar drefniant eu stondin a.y.b. 

Canlyniad dysgu 

Bydd y disgyblion yn gallu cyflawni tasg syml mewn cydweithrediad ag eraill a gwneud cyfraniadau positif. 

Adnoddau sydd eu hangen 

TGCh 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Celfyddydau Mynegiannol 

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth ac yn defnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg. 

2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 

Ymddiddan cydweithredol 

Cwestiynu 

Gwrando 

Gwrando er mwyn deall 

Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol 

Rhifedd 

Llythrennedd Rhifedd

Download document: 19.96 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.