Case Study, Document

Gweithgaredd 7: Sut y gallwn hysbysebu

Is Gynradd - Galluogi’r disgyblion i greu hysbyseb am eu cynnyrch neu wasanaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mai 2026
Download document: 20.62 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan dysgu 

Galluogi’r disgyblion i greu hysbyseb am eu cynnyrch neu wasanaeth. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Creadigedd 

Meddwl dargyfeiriol – creu syniadau 

Arloesi 

Cysylltiadau 

Gweithio gydag eraill 

Cyfathrebu 

Gweithgareddau dysgu 

Gan ddefnyddio samplau o hysbysebion o gylchgronau, teledu, y rhyngrwyd a ddarparwyd gan yr athro/athrawes gofynnwch i’r disgyblion beth yn eu barn nhw ydy pwrpas hysbysebu. 

Mae’r disgyblion yn edrych ar amrediad o hysbysebion. 

Gofynnwch y cwestiynau canlynol; 

  • “Beth mae’r hysbyseb yma’n ei ddweud wrthym ni?” 
  • “P’un ydy’r hysbyseb gorau?” 
  • “Pam mai hwn yw’r un gorau?” 

Dylai hysbysebion ddal sylw pobl ar unwaith. 

Gwahoddwch y disgyblion i rannu enghreifftiau o hysbysebion y maent yn eu cofio . Gofynnwch iddynt pam maent wedi cofio’r cynnyrch yma? Er enghraifft lliw, hiwmor, effeithiau sain, cerddoriaeth. 

Gofynnwch i’r disgyblion benderfynu beth ddylai hysbyseb da ei gynnwys e.e. 

  • Enw’r prosiect menter 
  • Enw’r cynnyrch/gwasanaeth 
  • Gwybodaeth am y cynnyrch/gwasanaeth a’r hyn sy’n gwneud y cynnyrch/gwasanaeth yn arbennig 
  • Gwybodaeth am sut a ble mae pobl yn gallu prynu’r cynnyrch yma 

Yn unigol neu mewn grwpiau, mae’r disgyblion yn creu posteri syml neu drawiadol ar gyfer eu cynnyrch/ gwasanaeth. 

Mae hwn yn gyfle am asesiad gan gymheiriaid. 

Gofynnwch i’r disgyblion eraill roi adborth adeiladol. Trafodwch ble sydd orau i arddangos y posteri fel y bydd y mwyafrif o bobl yn cael gwybod am eu cynnyrch/gwasanaeth.

 Canlyniad dysgu 

Bydd y disgyblion yn creu amrediad o syniadau syml ac yn dechrau mynegi safbwyntiau. 

Adnoddau sydd eu hangen 

  • Amrywiaeth o hysbysebion o gylchgronau 
  • Deunyddiau celf 
  • TGCh 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Celfyddydau Mynegiannol 

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth ac yn defnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychmygu. 

Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 
  • Diben 
  • Ymddiddan Cydweithredol 
  • Cwestiynu 
Gwrando 
  • Gwrando ar gyfer ystyr 
  • Gwrando er mwyn deall 
  • Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol 
Ysgrifennu 
  • Cynllunio a threfnu ar gyfer dibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destun gwahanol. 
Cymhwysedd Digidol 
  • Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol 
  • Creu cynnwys digidol 
  • Gwerthuso,a gwella cynnwys digidol
Download document: 20.62 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.