Amcan dysgu
Annog gwneud penderfyniadau a gweithio gydag eraill.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Creadigedd
Meddwl Dargyfeiriol – creu syniadau
Arloesi
Cysylltiadau
Cyfathrebu
Gweithio gydag eraill
Trefniadaeth
Gwneud penderfyniadau
Gweithgareddau dysgu
Gan ddefnyddio samplau sy’n cael eu darparu gan yr athro/athrawes o frandiau adnabyddus teganau, bwydydd, siopau ac ati, gofynnwch i’r disgyblion adnabod logos ac enwau am gynhyrchion/cwmnïau.
Mewn grwpiau, trafodwch beth, ym marn y disgyblion sy’n enwau da neu wael am gynhyrchion neu gwmnïau a pham maent yn eu hoffi/nad ydynt yn eu hoffi. Anogwch y disgyblion i greu syniadau am enwau ar gyfer eu prosiect menter.
Gan weithio mewn grwpiau, mae’r disgyblion yn trafod yr enwau ac yn cytuno ar yr enw sydd orau ganddynt ac yna yn gweithio mewn grwpiau i gynllunio logo gydag enw eu cwmni.
Mae pob grwp yn cyflwyno eu syniadau i’r dosbarth.
Gofynnwch i weddill y dosbarth bleidleisio ar yr enwau a ddewisir ac yna penderfynu’n derfynol ar enw a logo ar gyfer prosiect menter y dosbarth.
Gofynnwch farn dosbarthiadau eraill am enw’r cwmni a’r logo, gan wneud newidiadau wedi’u seilio ar yr adborth os bydd angen.
Canlyniad Dysgu
Bydd y disgyblion yn creu amrediad o syniadau syml ac yn dechrau mynegi safbwyntiau.
Adnoddau sydd eu hangen
- Papurau Newydd
- Cylchgronau
- Pecynnu
- TGCh
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
1. Meysydd Dysgu a Phrofiad
- Celfyddydau Mynegiannol
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth ac yn defnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychmygu.
2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Siarad
Diben
Ymddiddan cydweithredol
Cwestiynu Gwrando
Gwrando ar gyfer ystyr
Gwrando er mwyn deall
Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Cymhwysedd Digidol
Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol
Creu cynnwys digidol
Gwerthuso,a gwella cynnwys digidol
This file may not be fully accessible.