Amcan dysgu
Cynnal ymchwil syml i’r farchnad.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Creadigedd
- Cyfathrebu
Trefniadaeth
- Ymchwil – deall yr amgylchfyd
Gweithgareddau dysgu
Gofynnwch y cwestiwn: “Sut allwn ni ddarganfod os bydd rhywun eisiau prynu ein cynnyrch neu’n gwasanaeth?”
Cyflwynwch y syniad o ymchwil i’r farchnad a’r gynulleidfa darged e.e. wrth gynllunio bwydlen newydd ar gyfer ffreutur yr ysgol pwy ddylai gael eu holi a pham?
Trafodwch fanteision defnyddio holiadur i ymchwilio i’w syniad menter gyda’u cynulleidfa darged.
Mewn grwpiau mae’r disgyblion yn dyfeisio eu holiaduron syml eu hunain.
Gallai cwestiynau posibl gynnwys:
- “Beth maent yn feddwl o’n syniad?”
- “Ydyn nhw’n hoffi ein cynnyrch neu wasanaeth?”
- “A fydd pobl eisiau ei brynu?”
- “Faint fyddent yn fodlon talu amdano?”
Mae’r disgyblion yn penderfynu pwy i’w holi e.e. eu teulu, disgyblion mewn dosbarthiadau eraill, rhieni ac yna’n defnyddio eu holiaduron i gasglu gwybodaeth
Mae’r disgyblion yn coladu eu data ac yn adeiladu graff syml/siart gyfrif sy’n cynrychioli eu canfyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Bydd disgyblion y datblygu sgiliau ymchwil syml.
Adnoddau sydd eu hangen
Bwrdd gwyn rhyngweithiol
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
1. Llythrennedd
Siarad
- Diben
- Ymddiddan cydweithredol
- Cwestiynu
Gwrando
- Gwrando er mwyn deall
- Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Ysgrifennu
- Cynllunio a threfnu ar gyfer dibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destun gwahanol.
2. Rhifedd
Casglu data
Cynrychioli data
Dehongli data
This file may not be fully accessible.