Amcan Dysgu
Galluogi disgyblion i ddarparu ar gyfer ymweliad i’r ysgol gan gynrychiolydd o fusnes lleol.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Creadigedd
- Cyfathrebu
Trefniadaeth
- Cynllunio
Gweithgareddau dysgu
Trafodwch y syniad(au) ar gyfer prosiect menter a gynhyrchwyd yng Ngweithgaredd 2.
Gofynnwch y cwestiwn “Pwy allwn ni ei holi i ddarganfod mwy am ein syniad(au)?”
Archwiliwch y posibiliadau o wahodd cynrychiolydd o fusnes lleol i ymweld â’r ysgol, trefnu ymweliad rhithwir neu drefnu ymweliad i fusnes lleol.
Mae’r disgyblion yn paratoi cwestiynau y maent yn bwriadu eu gofyn i’r ymwelydd e.e.
- “Beth ydych chi’n ei wneud?”
- “Beth ydych chi’n ei gynhyrchu?”
- “Sut ydych chi’n ei wneud?”
- “Sut ydych chi’n ei werthu?”
- “Beth ydych chi’n feddwl o’n syniadau?”
- “Pa gyngor fuasech yn ei roi i ni?”
Mae’r disgyblion yn cynllunio pwy fydd yn gofyn y cwestiynau a phwy fydd yn gyfrifol am gwrdd â’r ymwelydd, a phwy fydd yn diolch i’r ymwelydd ar y diwedd.
Canlyniad dysgu
Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau cynllunio syml ac yn dechrau mynegi syniad i rywun arall.
Adnoddau sydd eu hangen
Dim
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
1. Meysydd Dysgu a Phrofiad
Iechyd a lles
- Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau eraill.
Dyniaethau
- Mae dinasyddion hunanymwybodol gwybodus yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth ac yn gallu cymryd camau moesol ystyriol.
2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
- Siarad
- Diben
- Ymddiddan Cydweithredol
- Cwestiynu Gwrando
- Gwrando ar gyfer ystyr
- Gwrando er mwyn deall
- Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Ysgrifennu
- Cynllunio a threfnu ar gyfer dibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destun gwahanol
This file may not be fully accessible.