Amcan Dysgu
Creu syniadau ar gyfer prosiect menter.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Creadigedd
- Datrys problemau
- Meddwl dargyfeiriol – creu syniadau
- Arloesi
Cysylltiadau
- Trafod, darbwyllo a dylanwadu
Trefniadaeth
- Gwneud penderfyniadau
Eglurwch wrth y dosbarth eu bod yn mynd i gymryd rhan mewn prosiect sef Y Criw Mentrus a chael cyfle i fod yn ‘entrepreneuriaid’ go iawn.
Cyflwynwch y dosbarth i’r Criw Mentrus: Amy (ar gyfer agwedd), Rhian (ar gyfer cysylltiadau) Callum (ar gyfer creadigedd) ac Owain (ar gyfer trefniadaeth).
Eglurwch eu bod yn cael cyfle i gymryd rhan yn her Y Criw Mentrus h.y meddwl am brosiect menter i ateb gofynion yn yr ysgol neu’r gymuned .
Gan ddefnyddio syniadau o blith y galwedigaethau a nodwyd yng ngweithgaredd 1, anogwch y disgyblion i feddwl am syniadau am gynnyrch y gallent ei wneud neu wasanaeth y gallent ei ddarparu. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â digwyddiad priodol yng nghalendr yr ysgol. Gofynnwch i’r disgyblion ystyried.
- “Pa ddigwyddiadau sydd ar ddod?” e.e. Nos Galan Gaeaf, ffair Nadolig.
- “Beth ydyn ni’n ei wneud yn dda?”
- “Sut allwn ni ddefnyddio’n sgiliau?”
- “Beth fuasai pobl yn hoffi ei brynu?”
Gan weithio mewn grwpiau, gofynnwch i’r disgyblion feddwl am eu syniadau am gynnyrch neu wasanaeth. Cyn iddynt ddechrau creu syniadau, atgoffwch y disgyblion fod pob syniad yn dda, gorau pa mor greadigol y gallant fod. Efallai y byddant yn cyfuno syniadau yn y pen draw.
Cofnodwch hoff syniad pob grwˆp a’u harddangos yn y dosbarth.
Gofynnwch i’r plant feddwl am a thrafod y syniadau cyn cytuno yn ddemocrataidd ar eu hoff syniad.
Mae pob grwp o ddisgyblion yn cyflwyno eu syniad gorau i weddill y dosbarth gan roi’r rhesymau dros eu dewis. Oherwydd bod hwn yn gyfle da ar gyfer asesiad cymheiriaid gofynnwch i ddisgyblion eraill roi adborth adeiladol.
Cynhaliwch bleidlais i gyrraedd penderfyniad y dosbarth am y cynnyrch / gwasanaeth gorau.
Canlyniad dysgu
Mae’r disgyblion yn gallu gweithio gydag eraill i greu amrediad o syniadau syml ar gyfer prosiect menter.
Adnoddau sydd eu hangen
- Bwrdd gwyn rhyngweithiol
- Calendr ysgol
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
1. Meysydd Dysgu a Phrofiad
Iechyd a lles
- Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau eraill.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
• Mae syniadau dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ateb gofynion ac anghenion cymdeithas.
2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Ymddiddan cydweithredol
- Cwestiynu
Gwrando
- Gwrando ar gyfer ystyr
- Gwrando ar gyfer deall
- Gwrnado fel rhan o ymddiddan cydweithredol
This file may not be fully accessible.