Amcan dysgu
Galluogi disgyblion i adolygu llwyddiant eu gweithgaredd menter.
Nodweddion Entrepreneuriaeth
Agwedd
Hunanhyder
Cysylltiadau
Cyfathrebu
Gweithio gydag eraill
Trafod, darbwyllo a dylanwadu
Gweithgareddau dysgu
Trafodwch ganlyniadau eu prosiect menter gyda’r disgyblion.
- “Pa mor llwyddiannus oeddem ni?”
- “Faint o gynnyrch wnaethom ni ei werthu?”
- “Faint o elw wnaethom ni?”
- “Beth wnaethom ddysgu?”
- “Beth wnaethom ni fwynhau fwyaf?”
- “Beth fuasem yn ei newid/yn ei wella erbyn y tro nesaf?”
Mae hwn yn gyfle da i gynnal hunan asesiad ac asesiad cymheiriaid. Gofynnwch i’r disgyblion eraill roi adborth adeiladol.
Gan ddefnyddio ffotograffau o’r prosiect menter, mae’r disgyblion yn creu cyflwyniad Y Criw Mentrus am eu menter i rannu eu canfyddiadau â’r dosbarth, a gweddill yr ysgol. Hysbyswch y rhieni trwy wefan yr ysgol ac/neu gylchlythyr.
Dathlwch eu llwyddiant.
Mae eich disgyblion yn awr yn Griw Mentrus!
Canlyniad dysgu
Mae’r disgyblion yn ystyried a gwerthuso eu menter.
Adnoddau sydd eu hangen
TGCh
Cwricwlwm ar gyfer Cymru
1. Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Siarad
- Ymddiddan cydweithredol
- Cwestiynu
Gwrando
- Gwrando er mwyn deall
- Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Cymhwysedd digidol
- Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol
- Creu cynnwys digidol
- Gwerthuso a gwella cynnwys digidol
This file may not be fully accessible.