Case Study, Document

Gweithgaredd 10: Gallwn ei werthu

Is Gynradd - Datblygu sgiliau mewn gwerthu eu cynnyrch neu wasanaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mai 2026
Download document: 20.16 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan dysgu 

Datblygu sgiliau mewn gwerthu eu cynnyrch neu wasanaeth. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Agwedd 

  • Hunanhyder 
  • Penderfyniad 

Cysylltiadau 

  • Cyfathrebu 
  • Gweithio gydag eraill 
  • Trafod, darbwyllo a dylanwadu 

Gweithgareddau dysgu 

Mae’r disgyblion yn cynllunio’r trefniadau ymarferol ar gyfer eu prosiect menter ac yn cytuno ar, ac yn dyrannu tasgau. 

Cyn gwerthu eu cynnyrch bydd angen i’r disgyblion: 

  • Gyfrifo faint a wariwyd ar wneud y cynnyrch 
  • Cyfrifo cost gwirioneddol pob eitem. 
  • Cyfrifo’r lleiafswm sydd angen ei godi er mwyn cadw o fewn cyllid 
  • Penderfynu ar bris rhesymol fydd yn rhoi elw iddynt 
  • Paratoi rhestr brisiau clir i arddangos i’w cwsmeriaid. 

Mae’r disgyblion yn gwerthu eu cynnyrch neu’n cynnal eu gwasanaeth. Mae’r disgyblion yn cadw cofnod o’r gwerthiant, yr arian a dderbynnir a’r elw a wneir. 

Mae’r disgyblion yn gwneud cofnod ffotograffig o’u prosiect menter. 

Canlyniad dysgu 

Bydd y disgyblion yn gallu cyflawni tasg syml mewn cydweithrediad ag eraill a gwneud cyfraniadau positif. 

Adnoddau sydd eu hangen 

  • Cynnyrch 
  • Arian parod ar gyfer newid 
  • Til/ cofrestr arian syml 
  • Camera digidol 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 
  • Ymddiddan cydweithredol 
  • Cwestiynu 
Gwrando 
  • Gwrando er mwyn deall 
  • Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol 

Rhifedd 

  • Llythrennedd Rhifedd 

Cymhwysedd Digidol 

  • Darganfod, chwilio a chynllunio cynnwys digidol 
  • Creu cynnwys digidol 
  • Gwerthuso a gwella cynnwys digidol
Download document: 20.16 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.