Digwyddiadau

Cyllido dy Syniad Mawr

Yn barod i wireddu eich syniad busnes? Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i archwilio cyfleoedd ariannu, deall eich opsiynau cyllid a chael mynediad at y cymorth sydd ar gael i ddechrau a thyfu eich busnes yn hyderus.
Dyddiad y digwyddiad:
Gweithdy
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Gweminar ar-lein

Trosolwg o’r digwyddiad

Does dim angen miloedd o bunnoedd arnat i droi syniad gwych yn fusnes llwyddiannus bob amser ond gall deall y cyllid a’r cymorth ariannol sydd ar gael wneud byd o wahaniaeth. O grantiau a chyllid i gyngor ymarferol ar reoli costau, mae llu o opsiynau ar gael sydd wedi’u cynllunio i’th helpu i gymryd y camau cyntaf pwysig hynny yn hyderus.

P’un a wyt yn dymuno canfod a wyt ti’n gymwys i gael Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc neu’n edrych ar ffyrdd eraill o ariannu dy daith fusnes, mae Syniadau Mawr Cymru yma i’th helpu i ddeall dy opsiynau a chael y cymorth sy’n addas i ti.

Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddi’n:

  • Dysgu am y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc a gweld a wyt ti’n gymwys i wneud cais.
  • Ymchwilio i’r amrywiaeth o opsiynau cyllid sydd ar gael i’th helpu i ddechrau a thyfu dy fusnes.
  • Magu hyder o ran deall sut y gall gwahanol fathau o gyllid busnes gefnogi dy nodau.
  • Canfod y cymorth ymarferol, yr arweiniad a’r adnoddau sydd ar gael er mwyn helpu i reoli’r costau rhedeg busnes.
  • Mwy medrus i wneud penderfyniadau ariannol gwybodus a chynllunio ar gyfer llwyddiant hirdymor.

Mae pob busnes llwyddiannus yn dechrau gyda chynllun. Gad i ni edrych ar y cyllid a’r cymorth a all helpu i ddod â dy syniad busnes yn fyw. 

Amodau arbennig

Mae Syniadau Mawr Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Wrth gofrestru, trafodwch eich dewisiadau iaith gyda ni.

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Siaradwr Manylion archebu
Mer, 28 Oct 2026 5:30yp - 6:30yp Gweminar ar-lein FREE
- Archebu ar-lein

Digwyddiadau diweddaraf

Etifeddiaeth i Arweinyddiaeth: Digwyddiad Entrepreneuriaeth a Grymuso Hanes Pobl Dduo

Yn barod i gymryd y cam cyntaf tuag at redeg eich busnes eich hun? Bydd y sesiwn hon yn symleiddio...

Cymerwch y cam cyntaf tuag at eich busnes eich hun gydag Academi Syniadau Mawr Cymru. Arweiniad...

Cymerwch y cam cyntaf tuag at eich busnes eich hun gydag Academi Syniadau Mawr Cymru. Arweiniad...


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.