Troseddwyr

Cyflogadwyedd Troseddwyr

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, yn cynnig darpariaeth dysgu a sgiliau o ansawdd uchel i garcharorion yng Nghymru. Mae hyn yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd, sy'n cynyddu eu siawns o ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl cael eu rhyddhau.

Manteision i'ch busnes:

  • Manteisiwch ar y sgiliau y mae'r unigolion hyn wedi'u meithrin drwy gydol eu bywydau ac yn y carchar.
  • Os oes angen sgiliau penodol ar eich busnes, siaradwch â'ch Cynghorydd Busnes Cymru ynghylch datblygu'r sylfaen sgiliau o fewn poblogaeth y carchardai.

Ydych chi erioed wedi ystyried cyflogi cyn-droseddwr?

Mae'r ystadegau presennol yn dangos mai lleiafrif bach o garcharorion yn unig sy'n cael gwaith o fewn blwyddyn i'w rhyddhau, er eu bod yn gymwys ac yn fedrus iawn. Mae llawer o gyflogwyr yn dechrau cydnabod manteision cyflogi cyn-droseddwyr

Manteision cyflogi cyn-droseddwr:

  • Lleihau costau recriwtio
  • Cynyddu cyfraddau cadw staff
  • Lleihau cyfraddau absenoldeb staff
  • Datrys problem prinder sgiliau
  • Mwy o amrywiaeth yn eich gweithlu
  • Gwneud gwahaniaeth go iawn

Drwy gyflogi cyn-droseddwyr, byddwch chi a'ch busnes yn ymuno â chwmnïau arloesol fel Timpsons a Halfords ac yn annog a chefnogi eraill i wneud yr un peth. 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu i recriwtio ymgeiswyr rhagorol i dyfu eich busnes, cysylltwch â PolisiDysguTroseddwyr@llyw.cymru  

Gallwch ddarllen am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu a darparu sgiliau yn ein polisi, Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd - Darpariaeth Dysgu a Sgiliau Carchardai yng Nghymru .



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.