Newyddion

Ymgysylltu â'r Sector Gwynt ar y Môr 2025

Off shore wind turbines

Amcangyfrifodd adroddiad Blueprint yr Ystâd Goron y bydd y rhaglen Môr Celtaidd 4.5GW yn cyflwyno £1.4 biliwn GVA i economi'r DU, ac yn darparu cyfartaledd o 5,300 o swyddi.

Mae'r Holiadur Swnio'r Farchnad a'r Arolwg, Ymgysylltu â'r Sector Gwynt ar y Môr 2025, yn rhan o raglen ymgysylltu â'r farchnad Llywodraeth Cymru i ddeall galluoedd, capasiti, ac awydd y gadwyn gyflenwi Gymreig.

Mae hwn yn gyfle sylweddol, gan fod y sector gwynt ar y môr yn tyfu'n gyflym, ac mae gan fusnesau ar draws Cymru gyfle i gymryd rhan ar sawl lefel. Efallai bod gennych arbenigedd mewn meysydd na fyddech yn eu cysylltu'n draddodiadol â gwynt ar y môr a allai fod yn drosglwyddadwy iawn i'r sector hwn.

Bydd yr adborth yn llywio strategaethau'r dyfodol i sicrhau bod busnesau Cymreig, yn enwedig BBaChau, mewn sefyllfa dda i gefnogi datblygiad sector Gwynt ar y Môr ar draws Cymru. Y nod yw sicrhau'r cyfranogiad mwyaf mewn gosod, adeiladu, gweithgynhyrchu, a gwasanaethau cymorth. Gyrru twf economaidd, gwaith teg, a hyrwyddo nodau sero net ac ynni adnewyddadwy.

Mae eich cyfranogiad yn hanfodol i lunio cadwyn gyflenwi wydn i gyflawni cyfleoedd yn y dyfodol o fewn y sector gwynt ar y môr.

Gellir dod o hyd i esboniad manwl o'r ymgysylltiad â'r farchnad, disgrifiad o becynnau gwaith a phecynnau is, gwerthoedd pecynnau amcangyfrifedig, amserlenni a chyfleoedd yn y Briff

Bydd yr arolwg yn cau am 5pm Dydd Gwener, 25 Ebrill 2025.

Cyflwynwch eich ymateb trwy'r ddolen arolwg ar-lein.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.