Newyddion

Ymgynghoriad ar ganllawiau tryloywder prisiau

couple online shopping - paying for goods

Pwrpas yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yw helpu pobl, busnesau ac economi'r DU drwy hyrwyddo cystadleuaeth a mynd i'r afael ag ymddygiad annheg.

Mae'r CMA yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i fusnesau ar ddarpariaethau tryloywder prisiau Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 (Deddf DMCC).

Mae'r canllawiau yn rhoi manylion:

  • beth yw gwahoddiad i brynu
  • pa wybodaeth brisio sydd angen ei chynnwys mewn gwahoddiad i brynu (a beth i'w osgoi gan gynnwys prisiau 'cudd' a 'rhanedig')
  • beth sydd angen i fasnachwyr ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion newydd i ddarparu cyfanswm pris y cynnyrch yn eu gwahoddiadau i brynu, a beth sydd angen iddynt ei wneud yn lle hynny os nad yw hyn yn bosibl
  • sut mae'r gofynion newydd yn berthnasol i fathau penodol o ffioedd ac arferion prisio a'r camau y gall masnachwyr eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion newydd

Mae'r canllawiau drafft yn dangos sut y gall y darpariaethau tryloywder prisiau fod yn berthnasol yn ymarferol a'u bwriad yw helpu masnachwyr i gydymffurfio â nhw.

Hoffai'r CMA glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymhwyso darpariaethau tryloywder prisiau Deddf DMCC. Gall fod o ddiddordeb arbennig i fusnesau, eu cynghorwyr cyfreithiol a chynghorwyr eraill, yn ogystal ag awdurdodau gorfodi eraill a chyrff cynrychioliadol defnyddwyr.

Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11.59pm ddydd Llun 8 Medi 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Consultation on price transparency guidance | CMA Connect


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.