Newyddion

Wythnos Ewch Ar-lein 2025

Adult education class

Wythnos Ewch Ar-lein yw ymgyrch cynhwysiant digidol flynyddol y Good Things Foundation. Mae wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 2007 ac mae'n ôl ar gyfer 2025 rhwng 20 a 26 Hydref.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o sefydliadau yn cymryd rhan yn ymgyrch cynhwysiant digidol fwyaf y DU i gynnal digwyddiadau cymunedol rhad ac am ddim sy'n helpu pobl i fynd ar-lein yn ddiogel, yn hyderus ac yn fforddiadwy.

Ydych chi'n sefydliad cymunedol sy'n awyddus i gynnal digwyddiad? Allwch chi helpu i ledaenu'r neges? Sut bynnag rydych chi eisiau cymryd rhan, ymunwch â'r mudiad: Get Online Week | UK’s Largest Digital Inclusion Campaign | Good Things Foundation

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi ac yn hyfforddi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol a mynd ar-lein: Digital Communities Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.