
Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith (LAW Week) rhwng 12 a 18 Mai 2025.
Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i greu diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw tynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus, a’r thema eleni yw ‘Cysylltu’, gweler tudalen thema 2025.
Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn cael ei harwain gan y Campaign for Learning. Gwahoddir cyflogwyr i nodi'r wythnos yn eu sefydliadau.
Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn wythnos i bawb ac mae wedi'i chynllunio fel y gall pob sefydliad gymryd rhan. Mae gweithleoedd o bob maint, sector a math yn cynnal digwyddiadau, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig, elusennau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac adrannau'r llywodraeth. Caiff digwyddiadau eu harwain a'u trefnu gan gydweithwyr Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu, hyrwyddwyr dysgu, a chydweithwyr marchnata a chyfathrebu. Maent yn aml yn cael eu cynnal ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad. Ewch i Be Inspired i weld beth mae'r cyfranogwyr yn ei wneud yn ystod yr wythnos.
Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cynnal Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ystod y dyddiadau cenedlaethol. Fodd bynnag, os oes amser gwell i'ch sefydliad a'i weithwyr, gallwch ddefnyddio'r adnoddau rhad ac am ddim i gynnal yr wythnos ar ddyddiadau gwahanol. Y peth pwysicaf yw bod Wythnos Dysgu yn y Gwaith wedi'i llunio i weithio i'ch sefydliad chi, gan gynnwys pryd mae’n cael ei chynnal.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: About LAW Week
Edrychwch ar dudalennau Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru am gymorth ac arweiniad i ganfod bylchau sgiliau a meysydd datblygu ar gyfer eich busnes.