Newyddion

Wythnos Ailgylchu 2025

Recycling logo

Mae’r Wythnos Ailgylchu yn ddathliad o ailgylchu ar draws y Deyrnas Unedig. Thema’r Wythnos Ailgylchu eleni yw 'Achub Fi' (Rescue Me).

Cynhelir yr ymgyrch rhwng 22 a 28 Medi 2025.

Dyma’r wythnos o’r flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a’r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: ysgogi’r cyhoedd i ailgylchu mwy o’r pethau cywir, yn amlach.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu. Mae'n berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i wastraff cartrefi o weithleoedd. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gyfraith hon i wella’r ffordd yr ydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff o safbwynt ansawdd a maint y gwaith: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymwch i gymryd camau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon a'i effaith ar yr amgylchedd tra'n sicrhau perfformiad cynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.