
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.3 miliwn ychwanegol i ehangu opsiynau credyd fforddiadwy, gan helpu miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at wasanaethau ariannol teg.
Mae'r cyllid newydd hwn ar gyfer undebau credyd yn adeiladu ar y cynllun ehangu benthyciadau llwyddiannus a sefydlwyd yn 2022, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £2.9 miliwn. Mae'r cynllun eisoes wedi helpu dros 4,000 o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy a allai fel arall fod wedi cael eu gwrthod gan fenthycwyr prif ffrwd.
Bydd y cyllid yn rhoi hwb i dwf undebau credyd, ochr yn ochr â mentrau fel gwasanaeth cangen symudol newydd Undeb Credyd Celtic. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yng Nghastell-nedd, mae'r Undeb Credyd Celtic wedi ehangu ei gyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd y gwasanaeth symudol yn mynd â gwasanaethau ariannol wyneb yn wyneb hanfodol yn uniongyrchol i gymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i greu Cymru gynhwysol yn ariannol, a chefnogi aelwydydd incwm isel yn benodol sy'n aml wedi'u heithrio o fancio prif ffrwd.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen ganlynol: Undeb credyd symudol cyntaf Cymru yn agor wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi hwb ariannol newydd o £1.3m | LLYW.CYMRU