Newyddion

Sut gall contract helpu eich busnes?

signing a business contract

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach (OSBC) wedi cyhoeddi canllaw newydd ‘A Guide to Creating a Contract’.

A yw eich busnes yn gwerthu nwyddau i fusnesau eraill? Ydych chi'n darparu gwasanaethau i gwsmeriaid busnes? Os felly, mae cael contract ysgrifenedig yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch eu defnyddio i’ch amddiffyn eich hun.

Beth:

  • os oes rhaid i chi aros 90 diwrnod am daliad pwysig?
  • os yw eich cwsmer mwyaf yn mynd i’r wal cyn eich talu?
  • os oes anghydfod ac nad oedd dim byd wedi'i gofnodi, pwy sy’n gwybod beth y cytunwyd arno?

Dyma'r union sefyllfaoedd lle mae contract yn bwysig. Ni fydd yn atal pob problem, ond bydd yn eich rhoi mewn sefyllfa glir, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn gwneud anghydfodau yn llawer haws i'w datrys.

Hyd yn oed os nad yw contractau ysgrifenedig yn arferol yn eich diwydiant, mae cymryd yr amser i nodi sut mae pawb yn bwriadu gweithio gyda'i gilydd a sut a phryd y byddant yn talu yn un o'r ffyrdd gorau o osgoi problemau. Nod y canllaw yw eich helpu i wneud hynny. Os oes materion cymhleth i'w datrys, neu os yw'r contract yn cynnwys risgiau neu gostau sylweddol, mae cyngor cyfreithiol yn syniad da.

Gall contract syml, hyd yn oed, wneud gwahaniaeth. Beth bynnag yw eich maint, rydych chi'n bartner cyfartal. Mae contract da yn gwneud hynny'n glir.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Our Guide to Creating a Contract - summary - Small Business Commissioner


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.