Newyddion

Sioe deithiol allforio i ymweld â Chaerdydd

Engineers using VR headsets

Bydd sioe deithiol sy'n anelu at baru busnesau bach a chanolig â phrynwyr a marchnadoedd rhyngwladol yn ymweld â Chaerdydd ar 13 Mehefin 2025.

Mae sioeau teithiol Made in the UK, Sold to the World yr Adran Busnes a Masnach wedi'u cynllunio i gysylltu prynwyr rhyngwladol yn uniongyrchol ag allforwyr BBaCh sy'n barod i fanteisio ar y cyfle i dyfu eu busnesau.

Bydd pob digwyddiad yn y gyfres yn cyd-fynd ag un o'r wyth sector allweddol sy'n ysgogi twf a amlinellir yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae'r sectorau a amlygwyd yn cynnwys ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, technoleg, gwyddorau bywyd, technoleg ddigidol, a gwasanaethau ariannol.

Bydd pob digwyddiad y sioe deithiol yn rhoi cyfleoedd i gynrychiolwyr gwrdd â Swyddogion Masnachol domestig a rhyngwladol, a fydd wrth law i gynnig cefnogaeth a chyngor arbenigol ar gynhyrchion, marchnadoedd a chyfleoedd allforio penodol.

Bydd parth cyngor dynodedig hefyd i fusnesau bach a chanolig ddysgu am wasanaethau cymorth allforio ehangach a gynigir gan yr Adran Busnes a Masnach, yn ogystal â'r rhai a gynigir gan bartneriaid eraill yn y sectorau cyhoeddus fel Canolfannau Twf rhanbarthol, a darparwyr sector preifat dibynadwy fel y Siambrau Masnach, Ffederasiwn Busnesau Bach, UKEF a MAKE UK.

Bydd amrywiaeth o weithdai a seminarau ar faterion cyfoes fel 'cynnal ymchwil marchnad' a 'llwybrau i'r farchnad' yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, dan arweiniad Academi Allforio'r DU. Bydd nifer o'r rhain yn cynnwys Hyrwyddwyr Allforio DBT a fydd yn siarad am eu profiadau eu hunain mewn marchnadoedd targed.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, dewiswch y ddolen ganlynol: Home

P'un ai ydych chi'n cynnig gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch, mae allforio’n cynnig potensial i drawsnewid bron pob agwedd ar eich busnes. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Pam allforio? | Busnes Cymru - Allforio


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.