Bydd cymunedau Cymru yn rhannu £10 miliwn i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol a lleihau biliau ynni.
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drydedd rownd Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2026–27, sy'n agor i geisiadau ar 26 Mawrth 2026: Ynni Cymru | LLYW.CYMRU.
Mae'r cynllun yn defnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar – gan helpu cymunedau i ddefnyddio ynni glân i leihau costau, creu swyddi ac adeiladu seilwaith lleol cryfach.
Gall hyn gynnwys gosod paneli solar, pympiau gwres, mannau gwefru cerbydau trydan a batris storio, ac mae'n agored i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig.
Dyfarnwyd £150,000 i Boomerang, elusen o Gaerdydd, sy'n cefnogi ac yn atal digartrefedd, tlodi ac ynysu cymdeithasol, drwy'r cynllun y llynedd.
Maen nhw'n datgarboneiddio pedair uned ddiwydiannol drwy osod pympiau gwres ffynhonnell aer, batris storio a mannau gwefru cerbydau trydan sydd wedi'u cysylltu â system paneli solar presennol ar y to, ac maen nhw'n bwriadu pweru deg cynhwysydd llong wedi'u hailbwrpasu ag ynni glân.
Bydd y cynwysyddion yn ffurfio pentref cymunedol gyda chaffi, siopau elusen, ystafelloedd hyfforddi a mannau ar gyfer busnesau newydd.
Disgwylir i'r system ynni lleol clyfar sydd wedi'i chwblhau arbed 70% o gostau trydan i’r elusen ac mae eisoes wedi cael gwared ar gostau tanwydd ffosil o'r safle yn llwyr.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: £10 miliwn i helpu cymunedau Cymru i leihau biliau ynni | LLYW.CYMRU,
Gallwch gofrestru ar gyfer ‘Yr Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.