Newyddion

£10 miliwn i gefnogi prosiectau ynni dan arweiniad y gymuned ledled Cymru

Solar panels and hard hat

Mae cyllid newydd bellach ar gael i gefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES), gan helpu i sicrhau bod manteision cynhyrchu ynni yn cael eu cadw a'u teimlo mewn cymunedau lleol.

Mae cynllun grantiau cyfalaf Ynni Cymru gwerth £10m yn rhan allweddol o nod uchelgeisiol Cymru i gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae'n darparu cymorth ariannol i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus, a busnesau bach a chanolig sy'n datblygu prosiectau ynni lleol arloesol.

Mae'r cynllun grant yn adeiladu ar waith Ynni Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023, i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy a llywio'r broses o drawsnewid Cymru i economi carbon isel.

Am ragor o wybodaeth, dewisiwch y ddolen ganylnol: £10 miliwn i gefnogi prosiectau ynni dan arweiniad y gymuned ledled Cymru | LLYW.CYMRU a Ynni Cymru: rhaglen ariannu grant cyfalaf 2025 i 2026 | LLYW.CYMRU.

Ar Agor Nawr: Grant Cyfalaf Ynni Cymru 2025 – Sesiynau Galw Heibio - Cofrestrwch i fynychu un o sesiynau galw heibio Ynni Cymru ar gyfer Cynllun Grant Cyfalaf 2025.

Os hoffech drafod unrhyw elfen o'r ffurflen gais a'r broses, bydd tîm Ynni Cymru yno i ateb eich cwestiynau. Bydd cydweithwyr o Busnes Cymru hefyd yn cefnogi'r sesiynau hyn.

Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal trwy Zoom, ac mae'r dyddiadau a'r amseroedd sydd ar gael fel a ganlyn:

  • Dydd Mawrth 20 Mai, 12-2pm
  • Dydd Mawrth 27 Mai, 12-2pm
  • Dydd Mawrth 3 Mehefin, 12-2pm

Gallwch gofrestru ar gyfer cymaint o sesiynau ag y dymunwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.