
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o dair dinas a rhanbarth yn y DU sy’n cael eu cefnogi drwy gronfa arloesi leol gwerth £500 miliwn.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o dair dinas a rhanbarth yn y DU sy’n cael o leiaf £30 miliwn yr un gan Lywodraeth y DU i ddatgloi arloesi newydd dan arweiniad lleol sy’n gallu gwella bywydau ledled y wlad, fel y mae’r Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance wedi cyhoeddi.
Bydd partneriaethau rhwng awdurdod y ddinas-ranbarth, busnesau a sefydliadau ymchwil yn gweithio gydag Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i fuddsoddi’r cyllid mewn amrywiaeth o flaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg - o wyddorau bywyd i atebion ynni gwyrdd, deallusrwydd artiffisial i beirianneg, a thu hwnt.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael gwerth o leiaf £30m o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddatgloi arloesi lleol a thyfu'r economi - GOV.UK