Newyddion

Prawf Rhybudd Argyfwng yn dilyn ei ddefnyddio ar gyfer Storm Darragh

mobile phone and a warning sign in red

Gyda llai nag wythnos i fynd,mae pobl ledled Cymru yn cael eu hatgoffa i ddisgwyl prawf Rhybudd Argyfwng cenedlaethol am yr ail dro erioed.

Bwriad y system yw helpu i amddiffyn bywydau drwy anfon cyngor diogelwch brys yn uniongyrchol i ffonau symudol yn ystod argyfyngau mawr. 

Bydd ffonau symudol sydd wedi’u cysylltu â rhwydweithiau 4G a 5G yn cael y rhybudd am tua 3pm ar ddydd Sul, 7 Medi.

Cynhelir yr ymarfer ar ôl defnyddio’r system yng Nghymru yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024, pan gyhoeddwyd rhybudd tywydd coch, prin. Pat McFadden, Gweinidog Llywodraeth y DU, wnaeth awdurdodi’r rhybudd. 

Cafodd tua thair miliwn o bobl ledled Cymru a de‑orllewin Lloegr y neges, a oedd yn rhybuddio am amodau peryglus a allai beryglu bywyd.

Yn ystod y prawf cenedlaethol ar 7 Medi, bydd ffonau symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn tebyg i seiren uchel am hyd at ddeg eiliad. Bydd neges brawf yn ymddangos ar sgriniau, gan nodi’n glir mai ymarfer yw’r rhybudd.

Cyn y prawf, mae’r llywodraeth y DU yn cynnal ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd i roi gwybod i bobl y bydd hyn yn digwydd, gan gynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u targedu at grwpiau agored i niwed, fel dioddefwyr cam-drin domestig. Mae’r ymgyrch wedi cynnwys y fideo gwybodaeth genedlaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain.

Yn ogystal â nodi’n glir mai dim ond prawf yw hwn, bydd y neges yn cyfeirio’r cyhoedd at GOV.UK/PREPARE, gwefan bwrpasol sy’n cynnig cyngor ymarferol ar beth gall aelwydydd ei wneud i baratoi ar gyfer argyfyngau.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Prawf Rhybudd Argyfwng yn dilyn ei ddefnyddio ar gyfer Storm Darragh - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.